'Angen mwy o arian i gyrraedd targed tai cymdeithasol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwario llawer mwy er mwyn cyrraedd addewid i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, meddai archwilwyr.
Mae llai na hanner yr 20,000 o gartrefi a addawyd gan Lafur yn eu maniffesto ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd wedi cael eu hadeiladu.
Heb arian ychwanegol, dywedodd corff Archwilio Cymru y gallai Llywodraeth Cymru fod tua 4,000 o gartrefi yn brin o’i tharged erbyn mis Mawrth 2026.
Dywedodd y llywodraeth fod chwyddiant uchel yn gwneud y targed “hyd yn oed yn fwy heriol”.
£580m i £740m yn ychwanegol
Mae gweinidogion eisoes wedi dweud gallai prisiau cynyddol olygu nad ydyn nhw’n creu’r holl gartrefi cymdeithasol carbon isel yr oedden nhw'n bwriadu yn nhymor hwn y Senedd.
Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, bydd y cynllun yn costio tua £1.8bn.
Ond mae Archwilio Cymru yn amcangyfrif y bydd angen rhwng £580m a £740m yn ychwanegol.
Dywed eu hadroddiad fod y cynnydd wedi bod yn “araf ac yn ddrytach nag a ddisgwyliwyd”.
Mae hyd at 9,197 o gartrefi wedi'u darparu hyd yn hyn, gyda 10,000 yn fwy ar y gweill.
Mae hynny ychydig yn llai na’r targed, ond mae’r adroddiad yn amcangyfrif, heb yr arian ychwanegol, mai dim ond rhwng 15,860 a 16,670 o gartrefi fydd yn cael eu darparu.
Mae’n ychwanegu bod “tebygolrwydd uchel” na fydd rhai cynlluniau yn digwydd o gwbl, hyd yn oed gyda rhagor o arian.
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
Mae chwyddiant sydd tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r gost o adeiladu cartrefi newydd.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi talu i gynghorau brynu neu brydlesu mwy o gartrefi, sydd hefyd yn cyfrif tuag at y targed o 20,000.
Fodd bynnag, nid yw pob un o'r cartrefi hynny yn rhai newydd neu garbon isel.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton fod diffyg capasiti yn y system gynllunio a'r angen i gydymffurfio gyda rheoliadau amgylcheddol wedi oedi pethau.
Dywedodd: “Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wario llawer mwy nag y mae wedi’i gynllunio ar ei gyfer ar hyn o bryd.
“Ac yn ail, bydd angen iddi gyflawni’r holl gynlluniau sydd ar y gweill – ac rydym yn meddwl bod risg eithaf uchel na fydd rhai o’r cynlluniau hynny digwydd mewn pryd nac o gwbl, waeth beth bynnag lefel y cyllid sydd ar gael.”
Dywedodd llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood ei bod hi'n "annerbyniol bod y llywodraeth Lafur yng Nghymru ar ei hôl hi mor bell ar eu targed adeiladu tai".
"Mae eu polisïau yn lleihau cyflenwad tai fforddiadwy ac mae eu ffocws ar dwristiaeth ac ail gartrefi yn gwyro oddi wrth yr angen ehangach i ddarparu mwy o dai," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw ystyried casgliadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru ac yn ymateb maes o lawr.
Dywedodd llefarydd bod sawl ffactor yn effeithio ar gyflenwad tai, gan gynnwys pwysau chwyddiant, sydd wedi gwneud y dasg o gyrraedd y targed yn fwy heriol.
Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r sector tai i adeiladu rhagor o gartrefi, meddai.
Maen nhw hefyd yn dweud bod taclo digartrefedd a darparu rhagor o gartrefi yn flaenoriaeth iddyn nhw, ac yn dweud eu bod nhw wedi gosod targed heriol ac wedi buddsoddi £1.4bn hyd yma i ariannu cyflenwad tai.