URC yn 'derbyn cyfrifoldeb' am ddirywiad tîm rygbi Cymru

Abi Tierney
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi Tierney yn dweud bod gorfod delio â beirniadaeth bersonol wedi bod yn "anodd iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn dweud fod rhaid i'r corff dderbyn "cyfrifoldeb llawn" am ddirywiad y tîm cenedlaethol.

Dywedodd Abi Tierney mai'r undeb sydd ar fai am y ffaith bod tîm dynion Cymru bellach wedi colli 17 gêm brawf o'r bron.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd fod y golled o 64-18 i Loegr ddydd Sadwrn yn "dorcalonnus", a bod y chwaraewyr wedi cael eu methu gan y rhai sy'n rheoli'r gamp yng Nghymru.

Ond er gwaethaf beirniadaeth ddiweddar gan rai, mae'n mynnu ei bod am barhau yn y rôl - gan ychwanegu ei bod wedi ymroi i gynnal y pedwar rhanbarth ac yn gobeithio penodi cyfarwyddwr rygbi newydd o fewn yr wythnos nesaf.

Mae Cymru yng nghanol y rhediad gwaethaf yn eu hanes - a'r golled yn erbyn Lloegr dros y penwythnos oedd eu colled drymaf erioed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

"Roedd o'n dorcalonnus, yn enwedig ar ôl i'r tîm dan-20 gynnig cymaint o obaith, a'r perfformiadau yn erbyn Iwerddon a'r Alban," meddai Ms Tierney wrth podlediad Scrum V.

"Roedd gweld yr effaith gafodd y cyfan ar y chwaraewyr yn ofnadwy, ond doedden nhw heb ein gadael ni lawr, ni (URC) sydd wedi gadael nhw lawr.

"Ar Undeb Rygbi Cymru mae'r bai. Ni sydd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod y tîm gorau posib ar y cae, ond mae'r sefyllfa yma wedi datblygu dros amser, ac mae hi am gymryd amser i ddatrys y sefyllfa."

Roedd ymgyrch y Chwe Gwlad yn hynod siomedig i Gymru, wnaeth golli pob gêmFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrch y Chwe Gwlad yn hynod siomedig i Gymru, wnaeth golli pob gêm

Cafodd Ms Tierney ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Ionawr 2023.

Hi oedd olynydd parhaol Steve Phillips, a ymddiswyddodd ym mis Ionawr yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru i honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.

"Dyma'r peth anoddaf i mi ei wneud erioed. Wrth gwrs rydw i wedi ystyried fy nyfodol yn y swydd, ond dwi wir yn credu y bydd yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yn gwella'r sefyllfa, a pe bawn yn gadael, byddai hynny yn arafu'r cyfan.

"Ydi rhywfaint o'r feirniadaeth bersonol wedi cael effaith arna i? Ydi, mae delio gyda hynny yn anodd iawn, ond rydw i eisiau bod yma am flynyddoedd i ddod."

Yn ogystal, mae Ms Tierney yn awgrymu ei bod yn difaru peidio gwneud sylw cyhoeddus wedi gêm olaf y Chwe Gwlad - gyda chyn-gadeirydd yr undeb, Gareth Davies a chyn-chwaraewyr yr Alban, John Barclay yn cyhuddo URC o beidio ag amddiffyn y prif hyfforddwr dros dro, Matt Sherratt.

"Rydych chi'n gorfod gwneud penderfyniadau drwy'r amser, ac rydych chi'n dysgu o hynny. Doeddwn i ddim yn cuddio, ond roedden ni wedi cytuno ar broses, ac fe wnaethon ni gadw at y broses honno."

'Y system wedi torri'

Fe wnaeth Ms Tierney gydnabod fod "sawl rhan o'r system wedi torri" gan ychwanegu nad yw'r hyn sy'n cael ei gynnig i gefnogwyr yn ddigon da.

Mae cyn-gapten Cymru, Sam Warburton wedi awgrymu y dylai Undeb Rygbi Cymru ystyried cael gwared ag un o'r rhanbarthau er mwyn cryfhau'r tri chlwb arall.

Ond yn ôl Ms Tierney, byddai'r broses honno yn cymryd o leiaf dwy flynedd ac "yn achosi niwed a thynnu sylw" a bod cadw'r pedwar rhanbarth yn benderfyniad "mentrus".

Abi TierneyFfynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ms Tierney ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Ionawr 2023.

"Rydyn ni wedi ymroi i gefnogi'r pedwar rhanbarth, ac i roi cyfle i bob un fod yn llwyddiannus er mwyn tyfu'r gêm yng Nghymru," meddai.

"Mae'r cyllid fydd ar gael iddynt yn cynyddu, byddwn yn gwella'r llwybrau i chwaraewyr fel bod safon y chwaraewyr sydd ar gael iddynt yn gwella hefyd, ac yn cryfhau'r elfen fasnachol.

"Fe fydd y strategaeth yma yn gyflymach o lawer ac yn cael effaith yn llawer cynt na chael gwared ar un o'r clybiau."

'Does dim gweledigaeth'

Wrth ymateb i sylwadau Abi Tierney, dywedodd y sylwebydd rygbi Gareth Charles ar Dros Frecwast nad yw'r cyfweliad yn cynnwys digon o wybodaeth.

"Does dim lot o fanylion yn y cyfweliad 'ma... does dim gweledigaeth bendant ac i fi dim ysbrydoliaeth.

"Mae 'na ddiffyg dyfnder yn beth mae'r undeb yn dweud."

Roedd o'r farn os nad yw'r sefyllfa yn gwella, yna "mae'n rhaid i hi [Abi Tierney] fynd".

"Unwaith 'to ni'n gweld yr undeb yn bod yn adweithiol yn hytrach nag rhagweithiol, dyw'r weledigaeth bendant ddim yno.

"Ma' gymaint o danau gyda ni i drio cael eu diffodd ar y funud ac mae'n trio tawelu a diffodd rhai ohonyn nhw nawr."

URCFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Mewn llythyr agored at gefnogwyr fore Iau, dolen allanol, dywedodd Abi Tierney fod y "cynlluniau sydd wedi eu gosod yn eu lle yn mynd i arwain at newid gwirioneddol, effeithiol a chadarnhaol".

"Roedd hi'n golled drom dros y penwythnos, sydd wedi arwain at ymatebion llafar ac emosiynol ledled y wlad – o glybiau rygbi, tafarndai, cartrefi, ysgolion a swyddfeydd ar hyd a lled Cymru," meddai yn y llythyr.

"'Beth yw'r ffordd ymlaen?' yw'r cwestiwn amlwg a 'Sut ry'n ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma?' Rwy'n rhannu'r un rhwystredigaeth â chi ond hoffwn eich sicrhau bod gennym bethau o dan reolaeth.

"Byddwn yn cyhoeddi ein cyfarwyddwr rygbi newydd yn y dyfodol agos ac yn fuan wedyn bydd penodiad prif hyfforddwr y dynion yn cael ei gadarnhau. Rydym hefyd ar fin penodi ein Prif Swyddog Twf newydd a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y tair swydd bwysig hon yn ein cynorthwyo i godi eto."

'Rhaid ymddiried yn ein gilydd'

Yn y gorffennol mae URC wedi sôn am eu huchelgais i dyfu'r gêm, ac i sicrhau fod Cymru yn un o bum tîm gorau'r byd erbyn 2029.

Mae'r undeb yn dweud eu bod ar fin arwyddo cytundeb ariannol gyda'r rhanbarthau fydd yn "diogelu dyfodol y gêm broffesiynol" yng Nghymru - gyda'r cyllid sydd ar gael i'r clybiau hynny yn codi o £4.5m i £6.5m dros dair blynedd.

"Mae'r broses wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond hyd yn oed pe bai ni wedi dod i gytundeb ym mis Hydref, byddai'r arian ychwanegol heb gyrraedd tan Gorffennaf," meddai Ms Tierney.

"Rydyn ni wedi cymryd ein hamser i sicrhau ein bod ni'n gywir gyda phopeth. Bydden ni wedi gallu gorfodi'r rhanbarthau i arwyddo'r cytundeb yma, ond mae'r berthynas gyda'r clybiau yn bwysig i ni.

"Mae'n rhaid i ni ymddiried yn ein gilydd."