Swydd Cymru yn ddeniadol - prif weithredwr URC
![Abi Tierney](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/a574/live/2626d4c0-e8ad-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Mae Abi Tierney wedi bod yn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru ers Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn dweud ei bod hi eisoes wedi cael pobl yn mynegi diddordeb mewn olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru.
Fe adawodd Gatland ei rôl ddydd Mawrth, ychydig ddyddiau ar ôl colled siomedig yn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd y canlyniad yn golygu bod Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, sy'n ymestyn yn ôl i Hydref 2023.
Prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt, fydd yn cymryd yr awenau am y tair gêm sy'n weddill yn y bencampwriaeth - yn erbyn Iwerddon, yr Alban a Lloegr.
Ond mae wedi dweud nad oes ganddo ddiddordeb yn y swydd yn y tymor hir.
Mae cyn-hyfforddwr Awstralia, Michael Cheika, hyfforddwr Glasgow, Franco Smith a phrif hyfforddwr dros dro Iwerddon, Simon Easterby, wedi eu henwi fel olynwyr llawn amser posib.
Pwy sydd yn y ffrâm i olynu Warren Gatland? Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n trafod
Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Mawrth dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney ei bod yn credu bod y swydd yn ddeniadol er gwaethaf sefyllfa bresennol rygbi Cymru.
"Dyw fy ffôn i ddim wedi stopio ers y bore 'ma gyda phobl sydd â diddordeb [yn y swydd] yn cysylltu," meddai Tierney.
"Dydw i ddim yn ddall i'r sefyllfa ry'n ni ynddi, ond i lawer o hyfforddwyr uchelgeisiol, mae'r syniad o ddod yma a gwneud gwahaniaeth a newid pethau yn amlwg yn ddeniadol.
"Roedd pobl yn cysylltu gyda fi cyn hyn, ac rwy'n hyderus y gallwn ni gael rhywun gwych ddod yma."
'Ddim yn diystyru unrhyw un'
Dywedodd Tierney y bydd nifer o ffactorau yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar bwy fydd olynydd Gatland.
"'Dych chi'n edrych ar bob un ohonyn nhw," meddai.
"Bydd nifer o feini prawf gwahanol a bydd yn ymwneud â'r ffit diwylliannol, yn ogystal â phrofiad.
"Dydyn ni ddim yn diystyru unrhyw un ar hyn o bryd. Fe awn ni drwy broses drylwyr i ddewis y person cywir."
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd yn ceisio denu cyfarwyddwr rygbi proffesiynol newydd yn dilyn ymadawiad Nigel Walker, gyda Tierney yn dweud ei bod yn hyblyg o ran pa swydd fydd yn cael ei llenwi gyntaf.
Dywedodd Tierney hefyd nad oedd yr undeb wedi cyrraedd unrhyw setliad ariannol gyda Gatland, a bod arian ar gael i ddenu prif hyfforddwr newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl