Dysgwr y Flwyddyn 2024: Cwrdd ag Antwn Owen-Hicks
- Cyhoeddwyd
Mae Antwn Owen-Hicks yn byw ym mhentref Sirhywi ger Tredegar ym Mlaenau Gwent ac yn un o sylfaenwyr y grŵp gwerin Carreg Lafar.
Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhyw 30 mlynedd, a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth arweiniodd at ei benderfyniad i ddysgu yn y lle cyntaf.
"Doedd dim Cymraeg gyda fi o gwbl pan o'n i'n ifanc, a wedyn symudais i i Lundain i 'neud gradd celf yna," meddai.
"A tra mod i'n byw yn Llundain 'nes i jyst dechre meddwl... dwi'n dod o Gymru ond dwi ddim rili yn gwybod lot amdano fe, dwi ddim yn gwybod lot am y diwylliant a'r iaith."
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
Ar ôl symud i Gaerdydd, fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg, ac yn yr un cyfnod fe ddaeth y grŵp Carreg Lafar i fodolaeth, felly roedd Antwn yn canu caneuon Cymraeg.
"Ar y pryd o'n i'n dal i ddysgu yr iaith so o'n i'n dechrau canu yn y Gymraeg cyn rili gallu siarad yn rhugl.
"Ond o'dd hwn yn rhan o'r holl broses i fi ddechrau defnyddio yr iaith yn fy mywyd ac wedyn 'nethon ni recordio.
"'Dan ni wedi recordio pedwar albwm gyda Sain, wedi teithio dros Gogledd America, Prydain wrth gwrs, Ewrop.... yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg trwy'n cerddoriaeth ni."
'Gwersi yma ac acw'
Mae ei wraig Linda yn aelod o'r grŵp hefyd, ac mae hi'n cofio'r dyddiau cynnar pan oedd Antwn yn dechrau dysgu'r iaith.
"Doedd gynno fo ddim lot o Gymraeg - eitha' basic, a dweud y gwir.
"O'n i'n rhoi bach o hwb iddo fo, a bach o wersi yma ac acw... a mae fe rili wedi datblygu a dod ymlaen."
Fel nifer fawr o deuluoedd yng ngymoedd y de, cafodd y Gymraeg ei cholli yn nheulu Antwn, a'i hen fam-gu - oedd yn byw ym Mhontllanfraith yn ardal Coed-duon - oedd yr ola' i gael y Gymraeg fel mamiaith.
"Yn anffodus, wnaeth hi ddim dysgu fy mam-gu, a wedyn diflannodd yr iaith o'r teulu mewn ffordd.
"So fi oedd yr un cyntaf, dwi'n meddwl, i ddechrau dysgu'r iaith eto, a wedyn Seren ein merch ni yw'r person cyntaf sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ers yr hen fam-gu."
Ar ôl cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, mae Antwn yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli eraill sydd wedi bod yn dysgu ers tro i ddal ati.
"Mae wedi bod yn siwrne hir i fi, a mae'n dal yn siwrne mewn ffordd - dwi dal yn dysgu pob dydd. Ond mae pob person yn wahanol a mae'n bwysig i ddangos mae'n bosib jyst i gymryd cam wrth gam.
"Os yw pobl yn dyfalbarhau a sticio at yr iaith, mae'n bosib i symud ymlaen a bydd yr holl iaith yn dod yn fwy rhugl."
Mae ei wraig yn pwysleisio ei fod e wedi'i hysbrydoli hi, wrth iddo fynd ati i ddysgu'r iaith.
"Pan 'nes i ddod i Gaerdydd i 'neud cwrs drama, a wedyn llawer o actio trwy'r Saesneg, doeddwn i ddim yn defnyddio'r Gymraeg llawer," meddai Linda.
"Felly pan gwrddes i ag Ant a creu'r band, o'dd o'n bwysig iawn i allu ailddefnyddio'r iaith, a 'nath o ysbrydoli fi yn fawr iawn achos dwi'n meddwl mae ei Gymraeg o lot gwell na Nghymraeg i!"
'Mae pawb wedi ennill yn barod'
Bu Antwn yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am dros 26 mlynedd, ac mae hefyd wedi ymwneud â'r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient yn Llydaw - lle mae'n cwrdd â phobl sy'n siarad ieithoedd Celtaidd eraill.
Mae'r Gymraeg yn rhan o'i fywyd erbyn hyn ac "wedi newid y ffordd dwi'n edrych ar bethe fel y celfyddydau a cherddoriaeth".
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd fe fydd yn cymryd rhan yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn ddydd Mercher, ac fe fydd ei wraig Linda yno'n ei gefnogi.
"Mae'n bwysig i fod yn y gystadleuaeth," meddai hi,"ond dwi'n credu mae pawb wedi ennill yn barod, so sdim ots!"
"Mae e' wedi ennill yn barod - nid ennill y gystadleuaeth, ond wedi ennill yn ei fywyd o trwy ddysgu'r iaith."