Dysgwr y flwyddyn 2024: Cwrdd ag Alanna Pennar-Macfarlane

Alanna Pennar-Macfarlane
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alanna ddechrau dysgu Cymraeg yng nghanol y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Alanna Pennar-Macfarlane ei magu yn Yr Alban, ond ers rhyw bedair blynedd mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, Josh - a fe a'i deulu oedd yr ysbrydoliaeth iddi fynd ati i ddysgu Cymraeg.

"Mae fy ngŵr a'i deulu i gyd yn siarad Cymraeg fel iaith gynta'," meddai, "ac o'dd rhaid iddyn nhw newid i'r Saesneg oherwydd fi, a doedd hwnna ddim yn teimlo'n gywir."

Fe ddechreuodd hi gymryd gwersi ar ôl iddi hi a Josh symud i Gaerdydd o Lundain, lle gwrddon nhw.

Gan ei bod hi yng nghanol y cyfnod clo, roedd y gwersi yn rhai rhithiol, ac mae Alanna a Josh yn cofio'r wers gyntaf yn glir.

"Doedd dim hawl gyda ni i siarad Saesneg," meddai Alanna "o'dd rhaid i ni siarad Cymraeg, hyd yn oed os oedd yn Gymraeg slac ... jyst trio.

"Es i mewn i'r lolfa, ble oedd e'n gweithio a nes i ofyn 'sut wyt ti?' ac o'dd e fel.. 'ti'n siarad Cymraeg... be' sy'n digwydd yma?"

"Mae e wedi bod mor gefnogol a rwy' mor falch ohono fe," meddai Alanna am ei gŵr.

"'Wi bendant yn cofio'r diwrnod cyntaf o'i chwrs hi," meddai Josh.

"O'dd hi wedi cerdded mas o'r stafell ble'r oedd y wers yn digwydd ar Zoom, ac yn sydyn roedd hi'n gallu siarad Cymraeg!

"O'n i wedi clywed hi'n cael gwersi ar Duolingo, ac yn deall lot mwy o beth o’n i'n dweud os o'dd hi'n gofyn i fi siarad Cymraeg gyda hi.

"Ond wedyn jyst i glywed e'n dod mas o'i llais hi, mae fe jyst yn anhygoel, ac o'dd e'n brofiad rili hyfryd."

Cymraeg yw iaith y cartref bellach, ac mae Alanna yn falch iawn o allu cyfathrebu gyda theulu ei gŵr yn eu mamiaith hefyd.

"Oedd hi'n daith hir i newid iaith, achos ni wedi adeiladu ein perthynas mewn Saesneg, ond erbyn hyn ni'n siarad Cymraeg yn y tŷ gyda'n gilydd, a gyda'i deulu hefyd, so mae'n rili cŵl i weld tamed bach o'i ochr arall nhw, achos mae eu cymeriad nhw dipyn bach yn wahanol mewn ieithoedd eraill!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alanna eisiau dangos i bobl fod modd dysgu iaith newydd, hyd yn oed os oes gennych chi ddyslecsia

Mae Alanna yn chwarae'r basŵn fel cerddor proffesiynol, ac mae wedi teithio i sawl gwlad i berfformio, ond ers meistroli'r Gymraeg, mae hi hefyd wedi sefydlu busnes i helpu pobl eraill sy'n dysgu.

"Dwi wedi sefydlu cwmni sy'n creu adnoddau dysgu Cymraeg.

"Mae gen i ddyddiadur i ddysgwyr a nodiadur treiglo sy'n helpu gyda'r treigladau, sy'n drysu pawb!

"'Wi 'di jyst trio creu rhywbeth fydde wedi fy helpu i yn gynharach yn fy nhaith dysgu."

'Bron yn wyrth'

Mae Josh yn falch iawn o ymdrechion ei wraig i feistroli'r Gymraeg.

"Mae gweld y ffordd mae hi wedi dysgu'r iaith a jyst yr hyder sydd wedi dod o hynny, mae bron yn wyrth.

"Mae wir wedi synnu fi pa mor gloi o'dd hi wedi llwyddo i fagu'r hyder yma a jyst y ffordd mae'n swnio mor naturiol a'r ffaith bod hi'n fodlon gwneud rhywbeth fel hyn er fy lles i, er lles fy nheulu i, fel ei bod hi'n gallu deall ein diwylliant ni.

"Wi wrth fy modd."

Ac mae Alanna yn gobeithio bydd ei stori hi, a'r ffaith ei bod wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn ysbrydoli eraill.

"'Wi mor falch o fy hunain - fyddwn i fyth yn meddwl gallen i ddysgu iaith arall i fod bron yn rhugl. So 'wi moyn profi i bobl eraill maen nhw'n gallu neud e, hyd yn oed os mae 'na dyslecsia 'da nhw, fel fi.

"Maen nhw'n gallu neud e beth bynnag sy'n mynd ymlaen gyda nhw."

Mae Josh yn edrych ymlaen at weld Alanna yn cystadlu yn y rownd derfynol ym Mhontypridd.

"'Wi'n edrych 'mlaen, yn enwedig achos bod e'n Steddfod sy'n agos iawn at ein cartref ni.

"'Wi'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, felly mae gweld yr Eisteddfod yn dod 'nôl i'r ardal yn mynd i fod yn braf ta beth, ond wedyn gweld Alanna yn bod yn rhan ohoni a bod achlysur mor fawr ar gyfer seremoni dysgwr y flwyddyn... 'wi methu aros!"