Apêl i ganfod ffesant ar ffo o sŵ drofannol yn Abertawe

FfesantFfynhonnell y llun, Sŵ Drofannol Plantasia
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y sŵ ei bod yn "bwysig bod yr aderyn anfrodorol yn dychwelyd cyn gynted â phosib"

  • Cyhoeddwyd

Mae sŵ drofannol yn Abertawe yn apelio am help y cyhoedd i ganfod ffesant sydd wedi dianc o'r safle.

Dywedodd Sŵ Drofannol Plantasia ei bod yn "bwysig bod yr aderyn anfrodorol yn dychwelyd cyn gynted â phosib i’w gartref cariadus".

Maen nhw'n dweud nad yw'r ffesant yn beryglus, "ond fe allai fod yn swil ac yn ofnus a dyna pam rydyn ni'n gofyn i unrhyw un sy'n ei weld rhoi gwybod i ni yn syth yn hytrach na mynd at yr aderyn".

Ychwanegon nhw fod ymchwiliad mewnol ar y gweill er mwyn sicrhau na fydd digwyddiad o'r fath eto.

"Os gwelwch yn dda, helpwch ni i ddod o hyd i'n ffesant!" meddai'r sŵ mewn post ar gyfryngau cymdeithasol.

Pynciau cysylltiedig