Pum munud gyda... Manon Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Manon Jones yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac yn gyn-actores sy’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner, Phil Higginson, a’u plant Wil a Nel.
Cymru Fyw fu'n ei holi am ei gyrfa hyd yma ym myd y cyfryngau.
Ges ti dy fagu yng Nghaerdydd a ti’n dal i fyw yno. Faint o newidiadau wyt ti wedi’u gweld dros y blynyddoedd?
Dwi wrth fy modd yn byw yng Nghaerdydd. Nes i ddim siarad llawer o Saesneg tan o’n i’n rhyw saith mlwydd oed oherwydd Cymraeg oedd iaith y cartref. Do’n i ddim yn clywed llawer o Gymraeg o gwmpas y ddinas ond mae hynna wedi newid cryn dipyn sy’n braf iawn.
Pan o’n i’n clywed rhywun yn siarad Cymraeg fel arfer bydden i’n eu nabod nhw ond dyw hynny ddim yn wir bellach.
Mae ardal Y Bae wedi newid yn fwy nag unrhyw ardal arall. Pan o’n i’n ifanc anaml iawn bydden i’n mentro yno ond mae’r lle wedi gweddnewid yn llwyr. Mae’r ddinas yn newid yn fisol ac mae’r newidiadau’n digwydd yn amlach ac yn gynt.
Oeddet ti wastad eisiau mentro i fyd y cyfryngau?
Ro’n i eisiau bod yn nyrs neu’n athrawes ar ôl gadael ysgol. Serch hynny, pan o’n i'n 14 ro’n i’n aelod o grŵp O Flaen y Llen, yn HTV Cymru ac yna The Workshop. Y nôd oedd i ddangos ein gwaith i gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr oedd yn chwilio am actorion ifanc ar gyfer rhaglenni teledu.
Sut hwyl ges ti arni?
Fues i’n ffodus cael ymddangos mewn sawl cynhyrchiad fel Emlyn’s Moon, Monsters a Chestnut Soldier ble ges i’r cyfle i weithio gyda Siân Phillips. Yna nes i deithio gyda’r Cardiff New Opera Group yn perfformio The Turn of the Screw gan Benjamin Britten pan ro’n i’n 15.
Ro’n i’n dair gantores oedd yn canu tair alaw wahanol tra bod y gerddorfa’n chwarae ei halaw ei hun, a hynny ar yr un pryd! Mi roedd e’n anodd ond yn brofiad a hanner yn ogystal.
Fe dreuliaist ti bum mlynedd i fyny yn Yr Alban yn actio ar Take The High Road. Beth wyt ti’n ei gofio am y cyfnod hynny?
Roedd cynhyrchydd y rhaglen, Frank Cox, yn chwilio am Gymraes i chwarae rhan Menna Morgan. Fe gysylltodd e gyda HTV Cymru a ges i gyfweliad cyn cael y rhan.
Roedd y golygfeydd mewnol yn cael eu saethu yn Glasgow a’r rhai allanol o gwmpas Loch Lomond. Roedd y tywydd yn newid o awr i awr a bydden ni’n saethu cymaint o olygfeydd mewn diwrnod ond mae’n rhaid i mi gyfaddef roedd e’n gyfnod cyffrous iawn.
Rwyt ti’n dod o deulu talentog a cherddorol. Mae dy fam, Margaret Williams, yn gantores ac yn actores a dy dad, Geraint Jones, yn gyn-sylwebydd snwcer a chynhyrchydd radio. Faint o ddylanwad cafodd dy rieni arnat?
Maen nhw wedi bod yn ddylanwad ac yn gymorth mawr i mi. Ro’n nhw bob amser yn dweud y dylen i neud swydd oedd yn rhoi hapusrwydd a phleser i mi.
Anaml iawn bydden nhw’n siarad am eu gwaith o fewn y cartref. Y teulu oedd yn dod yn gyntaf bob tro.
Beth wnaeth neud i ti gamu tu ôl i'r camera er mwyn dechrau cynhyrchu a chyfarwyddo?
Ddes i adref ar ôl gorffen yn yr Alban ond yna nes i ddatblygu endometriosis. Ro’n i’n gweithio ar gynhyrchiad teledu ar un achlysur a dwi’n cofio bod mewn cymaint o boen do’n i ddim yn gallu cofio ‘ngeiriau a do’n i byth yn eu anghofio nhw.
Dyna pryd nes i benderfynu rhoi’r gorau iddi. Roedd y cyflwr yn amharu cymaint arna’i do’n i ddim yn gallu rhoi’n hunan drwy’r profiad yna eto.
Daeth cyfle i mi weithio i Radio Cymru yn gwneud hysbysebion, sgriptio a chynhyrchu ac ro’n i’n mwynhau’r gwaith.
Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd ges i’r syniad i recordio Matthew Rhys, Gethin Jones a Ioan Gruffudd yn hysbysebu’r ŵyl. Daeth y stori allan ym mhapurau Lloegr ac yn Heat Magazine! Tridiau oedd gen i wneud y cyfan gan gynnwys mynd allan i Los Angeles! Dyna beth oedd jobyn dwys ond fe ddaeth pawb i ben â hi!
Mae dy bartner, Phil, a thithau wedi dechrau cwmni teledu eich hunain o’r enw Yellow Barrels. O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr enw?
Mae Phil yn dwlu ar Jaws, ac yn y ffilm mae ‘na ran ble mae’r bareli melyn yn cael eu llusgo oddi ar y cwch ac i mewn i’r dŵr gan y siarc! O fan’na daeth yr enw.
Ti a Phil sy’n gyfrifol am y rhaglen i blant, Dreigiau Cadi. O ble ddaeth y syniad i greu rhaglen bypedi am ddwy ddraig sy’n byw ger rheilffordd?
Dechreuodd Phil wirfoddoli ar rheilffordd Tal Y Llyn, ger Tywyn, pan oedd e’n 13. Mae’r ardal yn fendigedig ac mae’r trenau stêm yn anhygoel.
Roedd Phil eisiau gwneud rhaglen am y rheilffordd, mae dreigiau’n rhywbeth Cymreig felly dyna pam aeth y ddau o’ ni ati i greu Dreigiau Cadi.
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill