Cadw i weithio â gêm boblogaidd i hyrwyddo treftadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae corff treftadaeth Cadw yn gweithio gyda gêm gyfrifiadurol boblogaidd Minecraft mewn ymgais i gynyddu diddordeb mewn treftadaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg.
Byd Minecraft Cadw fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf erioed o Minecraft Education, ac fe gafodd ei lansio yng Nghastell Conwy ddydd Iau.
Gêm gyfrifiadurol ydy Minecraft, ble mae modd adeiladu neu archwilio bydoedd gwahanol - oll ar ffurf blociau.
Fersiwn addysgiadol o'r gêm ydy Minecraft Education, ac mae bellach ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf diolch i'r gwaith gyda Cadw.
Mae cyfradd uwch o ysgolion Cymru yn defnyddio Minecraft Education na bron unrhyw wlad arall trwy'r byd, ac felly'r gobaith yw y bydd yr adnodd newydd yn annog siaradwyr rhugl a dysgwyr i'w ddefnyddio trwy'r Gymraeg.
Mae byd Cadw Cymru yn ail-greu safleoedd treftadaeth eiconig y wlad o fewn Minecraft Education.
Bydd yn caniatáu i ddysgwyr archwilio a dysgu am safleoedd hanesyddol, fel cestyll, abatai ac adfeilion hynafol.
Fersiwn dwyieithog o Gastell Conwy ar ffurf blociau Minecraft yw'r byd cyntaf i ymddangos trwy'r prosiect yma, ond bydd lleoliad newydd yn cael ei ychwanegu i'r adnodd yn fisol.
Fe fydd 20 safle y mae Cadw yn gyfrifol amdanynt yn cael eu cynnwys yn y cam cyntaf.
Bydd sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnig i athrawon sydd eisiau defnyddio'r adnodd yn eu hystafelloedd dosbarth.
Mae Gwilym Hughes, pennaeth Cadw, yn disgrifio'r prosiect fel un cyffrous iawn o ran yr iaith ac o ran dysgu am hanes Cymru.
"Mae'n un o'r gemau mwyaf poblogaidd, ond mae o hefyd yn adnodd addysgiadol fydd yn dysgu plant am ein treftadaeth a'n henebion anhygoel, a thrwy gyfrwng y Gymraeg hefyd," meddai.
"Dim gimmick ydy hwn - mae hwn wir yn adnodd addysgiadol i ddysgu plant.
"Mae cymaint o sefydliadau addysg - ysgolion ledled Cymru - eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd hyn ymlaen.
"Mae Minecraft Education eisoes yn profi'n llwyddiannus iawn ledled Cymru, ac am y tro cyntaf mae ar gael yn llwyr trwy'r iaith Gymraeg, yn ogystal â Saesneg."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr adnodd yn rhoi hwb i safleoedd Cadw yn ogystal.
"'Da ni wastad yn eu hannog nhw i weld y lle go iawn hefyd," meddai Mr Hughes.
"Dydyn ni ddim eisiau i bobl ymweld â Chastell Conwy yn rhithwir yn unig - 'da ni eisiau iddyn nhw ymweld â'r Castell Conwy go iawn hefyd."
'Enfawr i'r iaith'
Yn ystod y digwyddiad lansio yng Nghastell Conwy cafodd plant a oedd wedi helpu i brofi'r byd ar Minecraft gyfle i gael taith o amgylch y safle go iawn.
Un o'r ysgolion hynny oedd Ysgol Pennant ym Mhen-y-bont-fawr ym Mhowys.
Dywedodd Manon Jones, athrawes yn yr ysgol sydd wedi bod yn gweithio gyda Minecraft ar y prosiect i'w gyfieithu i'r Gymraeg, ei fod yn adnodd gwych.
"Mae'r ysgol 'di bod yn defnyddio Minecraft ers ambell flwyddyn, a mae'r plant yn mwynhau dysgu trwyddo fo," meddai.
"Mae'n ffordd hwyl o ddysgu, a 'da ni 'di gweld buddion yn ei ddefnyddio fo i ddysgu hanes, gwyddoniaeth, ieithoedd - mae'n ffordd wych i gael brwdfrydedd."
Ychwanegodd: "Mae hyn yn ddigwyddiad enfawr i ni yng Nghymru, ac yn enwedig i'r iaith Gymraeg, bod 'na brosiectau fel hyn.
"Fyddwn ni'n defnyddio'r adnodd yma i ddysgu am hanes gwahanol safleoedd yng Nghymru, dysgu am chwedlau, am ffigyrau pwysig yn hanes Cymru.
"Mae hwn yn mynd i fod yn drawsnewidiol o ran sut 'da ni'n gallu dysgu hanes Cymru i blant."
Mae disgyblion Ysgol Pennant yn cytuno bod yr adnodd yn un gwerthfawr, a bod y profiad o ddod i Gastell Conwy i weld y lle gyda'u llygaid eu hunain wedi amlygu pa mor fanwl gywir yw'r fersiwn o'r safle ar Minecraft.
"Mae'n arbennig," meddai Sienna.
"Mae'n sioc fawr ac mae'n rhywbeth rili dda bod Minecraft yn Gymraeg, a fydd o'n helpu gyda addysg pawb."
Ychwanegodd Jonah: "Dwi'n hoffi'r gêm - y byd yma - a phan dwi'n dod yma [i Gastell Conwy] dwi'n gallu gweld i gyd o'r manylion maen nhw wedi rhoi mewn i'r gêm.
"Efo'r iaith Gymraeg mae'n gallu helpu lot o bobl sy'n dysgu Cymraeg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020