As Llanelli Nia Griffith yn gadael llywodraeth Syr Keir Starmer

Cafodd y Fonesig Nia Griffith ei phenodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru wedi buddugoliaeth Llafur yn Etholiad Cyffredinol 2024
- Cyhoeddwyd
Mae'r Fonesig Nia Griffith wedi gadael Llywodraeth y DU wrth i'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, wneud mwy o newidiadau i'w dîm yn sgil ymddiswyddiad Angela Rayner.
Fe gafodd ei phenodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru wedi buddugoliaeth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2024.
Roedd AS Llanelli hefyd yn Is-ysgrifennydd Seneddol gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb o fewn Adran Addysg San Steffan ers mis Hydref y llynedd.
AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin, sy'n llenwi'r bwlch ar ei hôl yn Swyddfa Cymru, gan symud o Swyddfa'r Prif Chwip.

Dywed Anna McMorrin ei bod yn edrych ymlaen at ymuno â'r tîm yn Swyddfa Cymru
Dywedodd Y Fonesig Nia y bu'n "fraint enfawr i wasanaethu yn y Llywodraeth Lafur".
"Fy mhrif rôl erioed yw cynrychioli fy etholwyr, a byddaf yn parhau i siarad yn gryf ar eu rhan," ychwanegodd.
Fe gafodd ei disgrifio gan Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, fel "seneddwr mor brofiadol a llais wirioneddol weithgar, ymroddgar a disglair dros Gymru".
"Mae hi wir yn chwaraewr tîm ac mae'n ddrwg iawn gen i i'w gweld yn gadael y llywodraeth.
Gan ddiolch iddi, fe ychwanegodd: "Mae Llanelli yn ffodus iawn o dy gael, Nia."
Dywedodd Ms McMorrin ei bod "wrth ei bodd" o ymuno â'r tîm yn Swyddfa Cymru ac "yn edrych ymlaen at fwrw iddi".
Mae AS Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, Chris Elmore wedi ei benodi'n Is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu dan yr Ysgrifennydd Tramor newydd, Yvette Cooper.
Ac mae Kanishka Narayan, AS Bro Morgannwg ers y llynedd, yn ymuno â'r llywodraeth fel gweinidog yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Mae yntau'n llenwi bwlch ar ôl y Farwnes Jones o Eglwyswen, sy'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2006.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.