Cyhoeddi rhestr fer albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025

Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r 10 albwm sydd wedi cyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mercher y Brifwyl yn Wrecsam ddechrau fis nesaf.
Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau.
Mae'r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014, a Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro.
Y beirniaid eleni yw Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
Yr albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:
Adwaith - Solas
Bwncath - Bwncath III
Don Leisure - Tyrchu Sain
Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell
Gwenno Morgan - Gwyw
Gwilym Bowen Rhys - Aden
Pys Melyn - Fel Efeilliaid
Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd
Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni
Ynys - Dosbarth Nos