Teyrnged teulu i ddarpar nyrs a fu farw mewn tŷ yn Lloegr

Lauren EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Evans gyda chi ei theulu yng Nghymru, Poppy

  • Cyhoeddwyd

Mae darpar nyrs o Gymru a gafodd ei chanfod yn farw gyda chorff parafeddyg mewn tŷ yn Lloegr wedi cael ei disgrifio gan ei theulu fel "merch a chwaer arbennig".

Daeth parafeddygon o hyd i gyrff Lauren Evans, 22, o Ben-y-bont ar Ogwr, a Daniel Duffield, 24 o Cannock, yn eu cartref yn nhref Hednesford, Sir Stafford ar 25 Mehefin.

Cafodd cwest ei agor i farwolaeth Ms Evans ddydd Mercher, ond nid yw achos y farwolaeth wedi ei ddatgelu eto.

Yn ôl Heddlu Sir Stafford mae ei marwolaeth yn cael ei thrin fel achos o lofruddiaeth ond dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un mewn cysylltiad â'u hymchwiliad.

Mae'r llu, ynghyd â Heddlu De Cymru, wedi cyfeirio'u hunain at yr IOPC (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu) yn sgil "cysylltiad heddlu diweddar" gyda'r pâr.

Mewn datganiad dywed teulu Ms Evans ei bod "yn wirioneddol hardd tu mewn a thu allan a fe fydd yn ein meddyliau am byth".

"Roedd ei rhieni, chwaer iau, neiniau a theidiau, perthnasau a ffrindiau yn ei haddoli oherwydd roedd yn eneth hardd, annwyl â chalon dyner ac fe fyddai ei gwên yn goleuo'r dyddiau tywyllaf."

Ychwanegodd y datganiad fod ei "natur feddylgar, ofalgar a serchus".

Roedd hynny, medd ei hanwyliaid, wedi "ennyn hoffter gymaint o bobl yn ystod ei bywyd byr ac roedd ganddi gymaint yn fwy o gariad i'w roi a gwenau i'w rhannu gyda theulu a ffrindiau yn y dyfodol".

'Awch at nyrsio'

Roedd Ms Evans yn astudio i fod yn nyrs iechyd meddwl ac yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae llefarydd ar ran y brifysgol wedi ei disgrifio fel myfyriwr ymroddgar a fyddai'n cael ei cholli gan fyfyrwyr eraill a'r staff.

Gan fynegi "sioc ddwfn a thristwch" dros ei marwolaeth, ychwanegodd y llefarydd:

“Roedd gan Lauren awch at nyrsio ac fe amlygodd penderfynoldeb ac ymroddiad mawr yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Abertawe."

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lauren Evans ei ddarganfod gyda chorff y parafeddyg Daniel Duffield

Dydy'r ddau heddlu sydd wedi cyfeirio'u hunain at yr IOPC heb ddatgelu natur y cysylltiad gyda Ms Evans a Mr Duffield.

Fe gadarnhaodd y Ditectif Arolygydd Louise Booker o Heddlu Sir Stafford eu bod "yn trin marwolaeth Lauren fel llofruddiaeth".

Dywedodd: “Ni alla'i ddechrau dychmygu'r loes i'r teuluoedd yn dilyn y digwyddiad trasig yma ac mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio.

"Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned nad ydyn ni'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Lauren ac rydym yn parhau i greu ffeil ar gyfer Crwner Ei Fawrhydi."