Parafeddyg a menyw o Gymru wedi marw mewn tŷ yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad llofruddiaeth yn cael ei gynnal ar ôl i barafeddyg a menyw o Gymru gael eu canfod yn farw mewn tŷ yn Lloegr.
Cafodd corff Lauren Evans, 22, Ben-y-bont ar Ogwr a Daniel Duffield, 24, o Cannock eu darganfod mewn eiddo yn Alpine Drive, yn nhref Hednesford, Sir Stafford tua 12:30 ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Sir Stafford wedi cyfeirio'u hunain at yr IOPC (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu) yn sgil "cysylltiad heddlu diweddar".
Dyw'r llu ddim wedi cadarnhau beth oedd natur y cysylltiad hwnnw.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad bod y cyrff heb gael eu hadnabod yn ffurfiol eto, ond eu bod yn credu taw Ms Evans a Mr Duffield sydd wedi marw.
Ychwanegodd llefarydd bod swyddogion arbenigol yn parhau i roi cefnogaeth i'w teuluoedd "ar yr adeg ofidus yma".
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr ddydd Mercher bod parafeddygon wedi canfod y dyn a'r ddynes ar ôl derbyn galwadau yn mynegi pryder yn eu cylch.
Yn ôl llefarydd, "roedd yn amlwg yn syth bod dim modd gwneud dim i'w hachub" ac fe gysylltodd staff â'r heddlu.
Ddydd Iau fe gadarnhaodd y gwasanaeth bod Mr Duffield ei hun yn barafeddyg, ac wedi cael ei gyflogi gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans.
Cafodd ei ddisgrifio fel "aelod staff adnabyddus" oedd "wastad yn awyddus i helpu a chefnogi ei gydweithwyr".
Dywedodd yr uwch-reolwr gweithrediadau Richard Barratt: "Mae ei farwolaeth, ag yntau mor ifanc, yn drasiedi enfawr.
"Rwy'n gobeithio y gall teulu Daniel gael ryw gysur o'r cannoedd o gleifion yr helpodd yn ystod ei gyfnod fel parafeddyg.
"Mae ein meddyliau gyda theuluoedd y ddau a gafwyd hyd iddyn nhw yn y lleoliad."
'Angerddol dros nyrsio'
Dywedodd Prifysgol Abertawe, ble roedd Ms Evans yn fyfyriwr: "Rydym wedi’n syfrdanu a’n tristau yn arw o glywed am farwolaeth Lauren Evans, a oedd yn ei blwyddyn olaf o astudio Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe.
"Roedd Lauren yn angerddol dros nyrsio ac fe ddangosodd hi frwdfrydedd ac ymroddiad yn ystod ei chyfnod yn Abertawe.
"Bydd colled fawr ar ei hôl, ymysg ei chyfeillion a’i chydnabod.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu yn eu galar."