Cymdeithas Hoelion Wyth: 'Merched y wawr i ddynion' yn 50 oed

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

John 'Y Graig' Davies oedd un o sylfaenwyr cymdeithas yr Hoelion Wyth yn 1973

  • Cyhoeddwyd

Bydd dathliad arbennig yn cael ei gynnal nos Wener i nodi 50 mlwyddiant y mudiad sydd wedi'i ddisgrifio fel 'Merched y Wawr i ddynion'.

Cafodd yr Hoelion Wyth ei ffurfio yn 1973, ar ôl i John Davies a'i gyfeillion o Aber-porth, Ceredigion feddwl y byddai'n syniad i gael cymdeithas i'r dynion trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ar ôl gweld llwyddiant Merched y Wawr yn lleol.  

Mae gan y mudiad bump o ganghennau erbyn hyn yn y gorllewin a'r canolbarth.

Mae John y Graig, fel mae'n cael ei adnabod gan bawb, yn 98 oed erbyn hyn, a fe yw'r olaf o'r sylfaenwyr gwreiddiol.

Ef fydd llywydd anrhydeddus y dathliad yng Nghaffi'r Emlyn, Tan-y-groes nos Wener.

'Nid rhwd anrhydedd hoelen'

"Beth ddechreuodd fi off oedd bod Nansi'r wraig, wedd hi yn Merched y Wawr, a newydd gael ei sefydlu oedd rheiny," meddai.

"We'n ni'n cael mynd 'da nhw ambell waith a we'n ni yn gweld nhw yn cael gymaint o sbort, ond ni'n meddwl, 'diawl, pam na allwn ni gael rhywbeth tebyg?'.

"We'n ni'n siarad gyda'r bois yn y gwaith a rhoi'r syniad iddyn nhw. Yn y diwedd, fe benderfynon ni ddechrau rhywbeth.

"We'n i'n gweithio yn yr RAE yn Aber-porth, a'r job 'da fi bryd 'ny wedd personel officer, felly we'n i'n gallu cael contact gyda phob un yn yr establishment."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Calfin Griffiths, o gangen Bro Sion Cwilt, fod y grŵp yn ceisio "cadw'r cyfan gyda'i gilydd", yn union fel hoelen wyth

Mae John yn cofio sut y cafodd y mudiad ei enw trawiadol. 

"Wedd rhaid cael cystadleuaeth i roi enw," meddai. "Y gof o Tobruk, Gwynfor Harries, wnaeth ddod mas gyda 'Hoelion Wyth'.

Eddie Morgan oedd yn gyfrifol am luniau arwyddair yr Hoelion Wyth: 'Nid rhwd anrhydedd hoelen'.

Fe esboniodd Calfin Griffiths, o gangen Bro Sion Cwilt, beth oedd arwyddocâd yr enw Hoelion Wyth.

"Yr Hoelen Wyth yw'r hoelen fwyaf oedd yn cael ei gweithio gan y gofaint," meddai.

"Dyna oedd y seiri yn defnyddio i gloi trawstiau'r tai pan oedden nhw yn codi tai ac i ddal y to a'r cyfan at ei gilydd yn gadarn, a dyna ry'n ni yn ceisio gwneud fel dynion sydd yn hoelion wyth - i gadw'r cyfan gyda'i gilydd.

"Yr iaith a'r diwylliant, a chadw pobl i siarad a chael hwyl, a chodi arian ar gyfer gwahanol elusennau."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r gymdeithas wedi dadorchuddio placiau glas i nodi cyfraniad unigolion fel John y Graig, Dai Jones Llanilar, y chwaraewr rygbi Delme Thomas a'r gyrrwr cychod cyflym o Aberteifi, Jonathan Jones.

Mae'r mudiad hefyd wedi casglu dros £8,000 i elusennau fel Mind Cymru a Tir Dewi dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn y dathliad nos Wener yn mynd i elusen DPJ, sy'n cefnogi pobl yn y byd amaethyddol sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Geraint Morgan gyda changen Cors Caron saith mlynedd yn ôl

Mae Geraint Morgan - trysorydd ac ysgrifennydd y mudiad - yn gweld pwysigrwydd mawr i'r mudiad yng nghefn gwlad.

"Bydden i'n dweud bod e'n rhyw stepen ymlaen o'r [Clybiau] Ffermwyr Ifanc," meddai.

"Mae'r cwbl yn uniaith Gymraeg ac mae hybu diwylliant Cymraeg a Chymreig yn bwysig felly mae'n bwysig i gadw'r 'pethe' i fynd yng nghefn gwlad.

"Meddyliwch am weithiwr amaethyddol sydd yn byw ar eu pen eu hunain - mae'n gyfle arbennig i ddod allan unwaith y mis a chwrdd â phobl.

"Yn lle digalonni, dewch i wneud rhywbeth ambwyti fe!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eurfyl Lewis yn gobeithio gweld sefydliad o ganghennau cymdeithas yr Hoelion Wyth yn y gogledd

Eurfyl Lewis yw Cadeirydd yr Hoelion Wyth ac mae e wedi bod yn aelod o gangen Beca ers 1982.

Fe esboniodd bod yr Hoelion Wyth yn cwrdd rhwng mis Medi a Mai, a bod Eisteddfod yr Hoelion Wyth yn uchafbwynt i'r digwyddiadau.

"Mae lot o bobl, wrth fynd yn hŷn, yn colli gwragedd neu ddim wedi priodi, ac mae unigrwydd yn beth mawr," meddai.

"Maen nhw'n edrych 'mlaen at ddod i'r gangen leol a chymdeithasu."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod yr Hoelion Wyth yn "uchafbwynt" i ddigwyddiadau'r gymdeithas

Mae Eurfyl Lewis yn gobeithio gweld mwy o ganghennau ar draws Cymru, yn enwedig yn y gogledd. 

"Mae yna siarad wedi bod am gael cangen ym Mhwllheli neu'r Bala, ond ar hyn o bryd dim ond siarad yw e," meddai.

"Dyna beth yw fy mreuddwyd i - licien ni weld yn mynd ymhellach. Ar hyn o bryd, yn y gorllewin 'ma fe.

"Bydde fe'n wych i weld e'n ymestyn."