Apêl am wybodaeth am ddyn, 98, sydd ar goll yn Abertawe
![Reginald Rees](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/499/cpsprodpb/7882/live/401ac430-5ad3-11ef-b95c-592c91b0fe82.jpg)
Mae Reginald Rees wedi bod ar goll ers fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 98 oed o ardal Abertawe fod ar goll ers fore Mercher.
Cafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf toc cyn 08:35 yn gyrru Renault Captur coch ym Mharc Pencaerfenni, Crofty, Abertawe.
Roedd o'n gwisgo trowsus brown golau neu hufen; crys porffor golau streipiog; siaced werdd heb lewys ac esgidiau Velcro brown.
Mae'n bosib ei fod yn gwisgo sbectol, medd plismyn ac maen nhw'n apelio am unrhyw yn sydd â gwybodaeath i gysylltu â nhw.
Fore Iau bu hofrennydd yr heddlu yn chwilio ardal Gŵyr a'r ardal o gwmpas lle mae Mr Rees yn byw ond bu'n rhaid atal y chwilio am gyfnod oherwydd y tywydd gwael.
Dywed plismyn y byddan nhw'n ailddechrau'r chwilio pan fydd y tywydd yn gwella.