Oes angen ymddiried mwy mewn gyrwyr ifanc?

Harri, Jacob, Evan a Mollie, disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri, Jacob, Evan a Mollie yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

  • Cyhoeddwyd

Cymdeithas foduro'r AA yw'r diweddaraf i alw am rheolau llymach ar yrwyr ifanc newydd.

Yn ôl yr AA, gallai cyflwyno trwyddedau gyrru penodol i yrwyr o dan 21 achub mwy na 50 o fywydau ac atal 900 o anafiadau difrifol y flwyddyn ym Mhrydain.

Mae'r gymdeithas yn credu bod angen rheolau llymach ar gyfer gyrwyr iau fyddai'n eu gwahardd rhag cludo teithwyr o oed tebyg am chwe mis ar ôl pasio'u prawf.

Daw hynny wedi i bedwar o bobl ifanc yn eu harddegau farw mewn damwain car yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2023.

Felly oes angen rheolau llymach ar gyfer gyrwyr ifanc?

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jacob pe bai cyfyngiadau ar yrwyr ifanc, fyddai dim modd iddo wneud rhan o'i swydd

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mlaenau Gwent yn gymysg eu barn.

Mae gyrru yn rhan hanfodol o swydd ran amser Jacob, 17.

Fel rhan o’i swydd mae’n gofalu am fachgen ac yn aml mae'n mynd ag e allan o gwmpas yr ardal.

Dywedodd pe bai newid yn y gyfraith i gyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc, byddai dim modd iddo wneud ei swydd.

“Rhaid i fi yrru fel rhan o swydd fi,” dywedodd Jacob.

“Os oedd cyfraith newydd yn dod mewn yn dweud bod gyrwyr ifanc ddim yn gallu cario pobl ifanc yn y car fyswn i ddim yn gallu neud y pethau gyda’r bachgen sy’n rili manteisio fe,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Gwynllyw yn credu bod angen i bobl ymddiried mewn gyrwyr ifanc

Mae Harri, 18, yn credu bod angen i bobl ymddiried mewn gyrwyr ifanc ar y ffyrdd.

Dywedodd: “Mae’n dibynnu ar ba fath o ffrindiau ti’n cael. Rhaid i’r gyrrwr gymryd bach o arweiniad yn y car – mae lan i’r person sy’n gyrru i reoli beth sy’n digwydd yn y car.

“Mae angen ymddiried yn y gyrrwr.”

I Evan, sydd yn aml yn gyrru ei frawd i’r ysgol, dywedodd bod “pethau allan yna fel black box sy’n sicrhau bod chi yn gyrru yn ddiogel a bod yn synhwyrol wrth gyrru".

“Grŵp bach o bobl sydd yn mynd i effeithio ar grŵp mawr achos ma’ rhai yn amlwg yn credu bod gyrru yn rhywbeth i gael hwyl ond ma’ rhaid bod yn saff gyda phobl yn y car.”

Er bod Mollie yn gweld sut y byddai rheolau llymach yn gallu "rhwystro a stopio pobl marw neu cael anafiadau" mae hefyd yn poeni y " byddai neb o ni’n gallu pigo ffrindiau ni lan, so ma fe’n sbwylo fe bach".

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd yr hyfforddwr gyrru profiadol, Austin Davies y byddai cyflwyno’r rheol yn “beth da“.

Ag yntau wedi dysgu miloedd o bobl ifanc yn Sir Gâr, dywedodd bod cyfyngiadau ar brofion gyrru mewn dinas neu dref yn golygu nad yw pobl yn dysgu gyrru ar lonydd peryglus yng nghefn gwlad.

“Chi’n neud y prawf mewn tref neu ddinas ond mae’r damweiniau gwaethaf yn digwydd y tu allan i’r llefydd yna lle mae’r terfyn cyflymder yn uwch.

"Does dim byd yn y prawf yn mynd i gefn gwlad, i’r troeon siarp yna."

Mae o’r farn y dylai’r Asiantaeth Safonau Gyrru fod wedi cyflwyno’r rheol yma yn y gorffennol.

“Mae llai o distraction, ti wrth dy hunan, fi’n meddwl fod e’n good peth."

'S’dim isie cosbi pawb'

Yn athrawes yn Ysgol Gwynllyw, mae Mrs Rhian James yn credu bod angen bod yn "realistig" gyda chyfyngiadau o’r fath.

“Ni fan hyn yn amlwg yn rhan o Went a ma lot o’n dysgwyr ni yn byw pellter mawr oddi wrth ei gilydd.

“Dyw’r trafnidiaeth cyhoeddus ddim yn grêt felly os nad ydyn nhw’n gallu cario ei gilydd, bod yn synhwyrol a bod ni’n rhoi ffydd ynddyn nhw, wedyn ma’ rhai yn mynd i gael eu hynysu."

Er ei bod hi’n cydnabod y peryglon, nid yw Ms James yn credu bod angen cosbi bob person ifanc.

“S’dim isie cosbi pawb am ffaeleddau ambell un...ma’ rhaid i ni gofio dim jest pobl ifanc sydd yn wyllt yn gyrru ar yr heol - ma pobl o bob oed.”

Pynciau cysylltiedig