Mwy yn gyrru dan ddylanwad yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Prawf AnadlFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu gostyngiad o 11% yn nifer y profion anadl gafodd eu cynnal yng Nghymru

Mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru'n dangos bod mwy o bobl wedi eu cael yn euog o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn 2018.

Mae'r ffigyrau yn yr adroddiad yn dangos bod 3,882 o bobl wedi eu cael yn euog yn 2018, sydd yn gynnydd o 18% ar gyfanswm 2017.

Fe ddywed yr adroddiad bod profion am yrru dan ddylanwad cyffuriau wedi cynyddu'n sylweddol, ond bod 11% yn llai o brofion anadl ar gyfer yfed a gyrru wedi eu cynnal.

Dywedodd yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, Brake, bod y data'n dangos fod gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn "dal yn amlwg" ar ffyrdd Cymru.

Llai o brofion

O fewn yr adroddiad mae data gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n dangos bod cynnydd o 95% yn y nifer a gafwyd yn euog o yfed dan ddylanwad cyffur anghyfreithlon - o 506 yn 2017 i 988 yn 2018.

Aeth nifer y bobl gafwyd yn euog o yfed a gyrru i fyny o 2,285 i 2,353.

Roedd hynny er y ffaith bod llai o brofion anadl wedi eu cynnal, gyda'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cynnal 36,975 o brofion yn 2018.

Mae hynny'n parhau â'r arfer o leihau nifer y profion dros y degawd diwethaf. Cafodd 123,019 o brofion anadl eu cynnal yn 2009.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Angen gweithredu'

Dywedodd llefarydd ar ran elusen Brake: "Mae canlyniadau'r adroddiad yn dangos yn glir fod gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn dal yn amlwg iawn ar ffyrdd Cymru.

"Mae angen i lywodraeth newydd y DU weithredu i daclo hyn gyda dull 'zero-tolerance' i yrru dan ddylanwad.

"Rhaid iddyn nhw ostwng y terfyn yfed a gyrru, blaenoriaethu'r math o ddyfeisiadau sgrinio sy'n gallu adnabod pob math o gyffuriau gwaharddedig a chael lefel uwch o blismona ar y ffyrdd er mwyn atal troseddwyr."

Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Mae miloedd o yrwyr wedi cael eu herlyn am yrru dan ddylanwad cyffuriau ers i ddeddfau newydd ddod i rym yn 2015, gan gynnwys 9,000 yn 2018 yn unig.

"Ers 2010 mae 14% yn llai o ddamweiniau o ganlyniad i yfed a gyrru wedi digwydd, ond rydym yn benderfynol o leihau'r nifer yma eto."

Mae'r uchafswm o alcohol cyn gyrru yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd yn 80mg o alcohol am bob 100ml o waed, ond yn Yr Alban cafodd hyn ei leihau i 50mg/100ml.