Seintiau Newydd yn 'dal i aros am £190,000 gan glwb Saudi Arabia'

Brad YoungFfynhonnell y llun, Nik Mesney/CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Brad Young Y Seintiau Newydd i ymuno ag Al-Orobah

  • Cyhoeddwyd

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, yn honni nad ydyn nhw wedi derbyn tâl gan glwb o Saudi Arabia ar gyfer trosglwyddiad yr ymosodwr Brad Young.

Mae'r Seintiau wedi cwyno i gorff llywodraethu pêl-droed y byd, Fifa, gan ddweud nad ydynt wedi derbyn tâl gan glwb Al-Orobah.

Gadawodd Young, prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf, Y Seintiau am Saudi Arabia fis Medi diwethaf am ffi o £190,000.

Dywedodd cadeirydd y Seintiau, Mike Harris, nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw arian a dywedodd fod Al-Orobah yn "warth llwyr".

"Mae ein ffi trosglwyddo yn ddyledus i ni – does dim ceiniog wedi dod," meddai Harris wrth raglen Call Rob ar BBC Radio Wales.

"Nid yw ein ffi trosglwyddo wedi'i dalu. Rydyn ni wedi rhoi gwybod i Fifa amdano. Roedd un [taliad] yn ddyledus yn syth ym mis Medi - fe wnaethon ni roi 16 diwrnod o ras iddyn nhw - ac roedd y llall yn ddyledus wythnos diwethaf, sef yr ail ran."

Brad Young yn chwarae i'r Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Brad Young un gêm i Aston Villa yng Nghwpan FA Lloegr yn 2021

Ychwanegodd: "Ni allwn hyd yn oed gael gafael ar y clwb felly byddwn yn dweud wrth unrhyw glwb sy'n ystyried gwerthu chwaraewr addawol i Saudi Arabia i beidio â gwneud y fargen oni bai bod yr arian yn eich banc cyn i'r chwaraewr fynd.

"Ni ddylai unrhyw glwb arall gael ei gymryd i mewn gan yr addewidion o gyfoeth sydd ddim yn cyrraedd."

Mae llefarydd ar ran y Seintiau yn dweud bod yr achos i fynd i Siambr Statws Chwaraewyr Fifa am benderfyniad ffurfiol ar 14 Ionawr.

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi cysylltu â swyddogion Al-Orobah yn ogystal â'r Saudi Pro League am ymateb i honiadau Harris.

Mae clybiau yn y Saudi Pro League wedi buddsoddi'n sylweddol i ddenu chwaraewyr adnabyddus fel Cristiano Ronaldo, Karim Benzema a Neymar dros y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Rhagfyr daeth cadarnhad mai Saudi Arabia fyddai'n cynnal Cwpan y Byd 2034.

Ymunodd Young, sy'n enedigol o Solihull, â'r Seintiau ym mis Medi 2023 ar ôl gadael Aston Villa, ac aeth ymlaen i sgorio 22 gôl ac ennill gwobr chwaraewr y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru.

Sgoriodd Young ddwywaith ar ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop fel rhan o'r rhediad a welodd tîm Craig Harrison yn sicrhau lle hanesyddol yng nghymal grŵp Cyngres UEFA.

Ond gadawodd y chwaraewr 21 oed y Seintiau cyn yr ymgyrch, er mawr rhwystredigaeth i Harris.

"Fe ddaethon nhw i mewn ar y diwrnod olaf cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau ac ansefydlogi ein chwaraewr gan addo'r byd," ychwanegodd Harris.

"Doedden ni ddim eisiau ei werthu. Roedd yr arian roedden nhw'n ei gynnig iddo am newid ei fywyd."