Rhybudd am donnau anarferol o fawr dros Ŵyl y Banc

Ar draeth Freshwater West ym mis Awst, cafodd 16 o bobl eu hachub a bu'n rhaid rhoi cymorth i dros 40 mewn un diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n ymweld â thraethau ac arfordiroedd Cymru yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc yn cael eu rhybuddio am y posibilrwydd o donnau anarferol o fawr ac amodau peryglus ar y môr.
Daw'r rhybudd wedi i wylwyr y glannau yn ddiweddar orfod achub nifer yn sgil sawl llanw terfol (rip tide).
Ym mis Awst bu'n rhaid i'r RNLI achub 46 o bobl yn Sir Benfro - yn eu plith dau o blant ifanc.
Mae yna rybudd i syrffwyr y gall y tonnau fod yn ddau neu dri metr ddydd Llun a dydd Mawrth - yn enwedig yn y de a'r gorllewin.
Mae'r RNLI yn atgoffa pobl sy'n mynd ar draethau i wneud hynny pan mae achubwyr bywyd yn bresennol.
'Eithaf anarferol'
"Mae'r rhagolygon ar hyn o bryd ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth yn eithaf anarferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn... a gallai'r tonnau mewn ambell le fod yn uwch na dau fetr, hyd yn oed tri metr," meddai Chris Cousens, arweinydd diogelwch dŵr yr RNLI.
"Os byddwn yn cyrraedd yr uchderau hynny, mae hynny'n llawer mwy nag y byddem yn ei ddisgwyl ar unrhyw adeg o'r flwyddyn."

Mae'r RNLI yn rhybuddio y dylai pob un a fydd yn mynd yn agos i'r môr a'r arfordir dros y dyddiau nesaf gymryd gofal.
"Os ydych chi'n nofiwr mae risg uwch o gerrynt terfol a thonnau, os ydych chi'n cerdded ar hyd yr arfordir - yn enwedig yn ystod llanw uchel - gallai dŵr lifo drosodd i ardaloedd na fyddai fel arfer, ac wrth gwrs os ydych chi'n defnyddio cwch, caiac, padlfwrdd neu unrhyw beth felly gall yr amodau olygu bod llawer mwy o berygl i chi," meddai Mr Cousens.
Daw'r rhybudd wedi i nifer orfod cael eu hachub yn ddiweddar - yn eu plith nofwyr a syrffwyr.
Rhwng 9 a 15 Awst cafodd yr RNLI eu galw i nifer o ddigwyddiadau ar dri thraeth yn Sir Benfro.
Bu'n rhaid achub 14 o bobl ar draeth Niwgwl mewn un diwrnod ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion mewn ceryntau terfol.
Ar draeth Freshwater West, cafodd 16 o bobl eu hachub a bu'n rhaid rhoi cymorth i dros 40 mewn un diwrnod.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mewn digwyddiad arall bu'n rhaid achub dau blentyn ifanc oedd wedi dechrau mynd o dan ddŵr mewn ardal y tu hwnt i'r baneri coch a melyn ar y traeth.
Dywedodd yr RNLI nad oedd eu rhieni'n ymwybodol eu bod mewn perygl.
"Mae tonnau mawr yn golygu mwy o risg o geryntau terfol, ac mae'r chwydd hefyd yn cyd-daro â llanw'r gwanwyn, sy'n golygu llanw mwy pwerus a chyflym," ychwanegodd Chris Cousens.
Y cyngor i bobl sy'n cael eu dal mewn cerrynt terfol yw i beidio ag ymladd yn ei erbyn ond yn hytrach nofio ar draws yn gyfochrog â'r traeth nes eu bod yn rhydd o'r cerrynt.
Os nad yw hynny'n bosibl, yna mae'r RNLI yn dweud mai arnofio yw'r peth gorau i'w wneud nes bod modd cael cymorth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.