Dewch i grwydro... Ceredigion

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dywysyddion swyddogol o amgylch Cymru i roi cyngor am lefydd difyr i ymweld â nhw dros gyfnod gwyliau'r Pasg.
Mae Huw Davies yn byw yn Llangeitho ger Tregaron.
Er iddo gael ei eni ar ochr mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, mae'n byw yng nghanolbarth Ceredigion ers dros 40 mlynedd
Abaty Ystrad Fflur

Yn 1166 rhoddodd y Tywysog Rhys ap Gruffydd dir i'r mynachod Sistersaidd i godi mynachlog mewn ardal anghysbell o Geredigion. Yn wahanol iawn i fynachod eraill fel y rhai Benedictiaid, cafodd y Tywysogion Cymreig gefnogaeth amlwg gan y Sistersiaid.
Oherwydd hyn roedd yr Arglwydd Rhys yn awyddus i gael mynachlog Sistersaidd yn ei dywysogaeth. Daeth y safle crefyddol yma yn le o bwysigrwydd mawr yng Nghymru ac yn ganolfan diwylliannol Cymreig.
Y mae trysorau pwysig i'w gweld yn Ystrad Fflur, megis y ffenestr ar y ffordd i mewn i'r adeilad, teils canoloesol ar y llawr, mynwent yr uchelwyr Cymreig y tu cefn i'r Abaty, bedd Dafydd ap Gwilym o dan yr ywen.
Cydnabyddir Dafydd ap Gwilym fel y bardd canoloesol gorau o Gymru. Dylid hefyd cymryd golwg ar yr olygfa anhygoel o'r Bannau, y dirwedd, cerflun o'r Pererin a'r barcud yn hedfan uwchben.
Er mae'r abaty yw canolfan y safle presennol, mae'r gwaith archeolegol o dan arweiniad Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llambed wedi dangos bod yr adeiladwaith a welir heddiw ond yn rhan fechan o'r hyn oedd ar y safle yn ystod amser mwyaf llewyrchus yr Abaty.
Mae'r gwaith archeolegol yn parhau a'r safle ar agor i ymwelwyr yn ystod adegau penodol o'r flwyddyn. Rhaid cofio mae yma, yn ôl traddodiad, y cedwid cwpan Nanteos cyn i'r fynachlog a thir y fynachlog gael ei gymryd drosodd gan deulu Stedman ar ôl diddymu'r mynachlogydd yn yr 16eg ganrif.
Mae'r cwpan yn awr i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cwm Ystwyth i Gwm Elan

Ni ellir cael taith fwy trawiadol mewn modur ar ffordd gyhoeddus na dilyn y ffordd o ddwyrain Ceredigion i ardaloedd gorllewin Powys. Gellir dechrau'r daith o bentre' Cwm Ystwyth. Yn syth wedi gadael y pentre' ceir golygfa o hen waith mwyn Cwmystwyth.
Dywedir bod y safle wedi cael ei gloddio mor bell yn ôl a'r Hen Oes Efydd, a bu'n cael ei gloddio wedyn yn achlysurol tan 1950. Mae nifer o'r adeiladau mwyngloddio yn parhau i gael eu gweld ar y safle a hefyd mae nifer o dwneli ac ati ar y tir.
Mae'r safle yn cael ei gydnabod fel un o'r mwyngloddiau pwysicaf yng Nghymru, ac mae'n atgoffa ni bod ardaloedd dwyreiniol Ceredigion wedi bod yn ardal mwyngloddio bwysig yn y canrifoedd a fu. Gwelir yma'r diwydiannol a'r amaethyddol yn gymdogion agos.
O ddilyn y brif ffordd mae'r dirwedd yn newid yn llwyr. Yn sydyn mae'r ardal yn troi yn fynyddig llwyr, gan ddilyn yr Afon Ystwyth am rai milltiroedd cyn cyrraedd Cors Lwyd.
Yno mae cyfeiriad yr afon, sydd yn rhedeg ar bwys y ffordd, yn newid ac o hyn ymlaen dilynir yr Afon Elan. Mae'r ffordd yn dilyn ymlaen dros dir corsog a mynyddig ble ceir amrywiaeth o blanhigion a thirwedd syfrdanol.
Wedi cyrraedd Pont ar Elan mae modd dilyn y ffordd i'r de tuag at gronfeydd dŵr Cwm Elan lle mae yna olygfeydd ysblennydd ac ar noson glir serennog mae yna wledd yn eich aros. Neu gallwch cadw at y brif ffordd a chyrraedd Rhaeadr Gwy.
Llanerchaeron

Gwelir Llanerchaeron tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o dref Aberaeron.
Ystâd Sioraidd yw Llanerchaeron ac mae nawr yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cafodd rhan o'r plas ei gynllunio gan y pensaer enwog John Nash, ond beth sy'n gwneud y safle mor arbennig yw'r ffaith bod y lle heb newid llawer am dros 200 mlynedd o dan berchnogaeth y teulu Lewis/Lewes.
Gellir ymweld â'r plasty â'r holl adeiladau a oedd yn gysylltiedig ag ef.
Mae fferm y plas hefyd yn agored ac yno mae anifeiliaid fferm fel moch, cobiau Cymreig, defaid, ieir a gwyddau. Gellir cerdded o gwmpas y stad ac i'r ardd furiog, llyn y stad a pharciau gwyllt y stad.
Yn dilyn ymweliad gyda'r plasty a'r stad gellir cerdded neu feicio o'r safle ar hyd llwybr hynod o bleserus i dref Aberaeron.
Eglwys Ysbyty Cynfyn a thaith gerdded i Bontbren y Ffeirad

Safle arall hanesyddol, ond am resymau gwahanol, yw Eglwys Ysbyty Cynfyn.
Gwelir yr Eglwys ar ochr y ffordd A4120 rhwng Pontarfynach a Phonterwyd. Does neb yn medru egluro yn llawn y rheswm am leoli'r Eglwys yn y llecyn hwn, ond efallai bod y safle yn gysylltiedig ag Abaty Ystrad Fflur, neu'n gysylltiedig gydag un o'r sefydliadau'r Marchogion (Knights Hospitallers).
O gwmpas yr Eglwys, a ail-adeiladwyd ar y safle yn 1827, ceir nifer o gerrig hirfaen yn rhan o'r wal o gwmpas yr Eglwys.
Credir bod y cerrig yn dyddio o oes cyn-hanesyddol. Mae'r fynwent hefyd o ddiddordeb oherwydd dywedir i ffeiriau gael eu cynnal ynddi, a hefyd bod y fynwent yn lleoliad i chwaraeon fel ymladd ceiliogod.
Tua 400 metr i'r gorllewin gwelir hen Bompren y Ffeirad, sef pont gul dros yr Afon Rheidol. Yr amser gorau i ymweld â'r bont yw wedi glaw trwm pan fod yr afon islaw yn llifeiriant swnllyd. Mae modd dilyn y llwybr ymhellach i'r gorllewin dros y bont ac uno gyda llwybr Ffordd y Cambrian (Cambrian Way). Mae'r golygfeydd yn anhygoel.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl