'Mwy o bobl yn prynu dillad ail law fel anrhegion Nadolig'
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl yn troi at ddillad ail-law - neu vintage - fel anrhegion Nadolig am resymau amgylcheddol, yn ôl perchennog siop ddillad yng Nghaernarfon.
Mae'n un o'r prif resymau tu ôl i'r twf yn y sector vintage, meddai Dylan Jones, a agorodd ei siop yn gynharach eleni.
Mae'r diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am 8-10% o allyriadau byd-eang, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, dolen allanol.
Ac mae Banc y Byd, dolen allanol yn dweud y gallai gwerthiant dillad ar draws y byd gynyddu hyd at 65% erbyn 2030.
Mae mwy a mwy o bobl yn ystyried dillad vintage fel ffordd hwyl a creadigol i leihau eu ôl-troed carbon, meddai Dylan.
"Mae pobl yn siopa am ddillad vintage yn fwy dyddiau yma, fi'n credu, am nifer o resymau ac mae'r amgylchedd yn sicr yn un ohonyn nhw.
"Mae'n opsiwn i bobl sydd ddim eisiau cefnogi fast fashion, yn enwedig dros y Nadolig pan mae gymaint yn cael ei gynhyrchu a'i wastraffu," meddai Dylan.
"Dwi'n meddwl fod 'na adnabyddiaeth hefyd am amgylchiadau'r gweithwyr sy'n cynhyrchu'r dillad 'ma a faint o ddrwg ma'n gallu bod."
'Rhatach a'n para hirach'
Mae ansawdd y dillad, y prisiau is, a'r cyfle am steil fwy "unigryw" hefyd yn ffactorau sy'n denu pobl at siopau vintage.
"Mae'r fath o ddillad sy'n cael ei werthu o ansawdd gwell a'n amlwg yn para'n hirach na be sydd ar werth gan lawer o'r cwmnïau sy'n gwneud fast fashion," meddai Dylan.
"Mae'n galluogi pobl hefyd i brynu dillad o'r brandiau mawr am fraction o'r pris ac mae'r dillad yn aml fel newydd felly ma'n fargen.
"Gall pobl fod yn fwy unigryw gyda'i dillad, i fynd am bethau sy'n fwy dynamic a cyffrous iddyn nhw. Di'r dillad ddim yn mynd yn stale yn yr un ffordd."
Mae rhai eitemau yn enwedig yn boblogaidd ar draws y sector vintage fel anrhegion Nadolig, meddai Dylan.
"Mae hen grysau pêl-droed a rygbi yn boblogaidd iawn fel anrhegion Nadolig.
"Ond chi hefyd yn gweld mwy o bobl yn prynu siwmperi a siacedi fel anrhegion.
"Pobl ifanc a myfyrwyr yw'r bread and butter fel petai, ond mae pobl hŷn a chanol oed yn dod i mewn hefyd."
Arbed mynd i Lerpwl
Mae Dylan yn gobeithio fod ei siop yn profi'n fuddiol i'r gymuned hefyd.
"Mae'r ffaith mod i 'di gallu agor y siop yma yng Nghaernarfon yn dangos sut ma'r sector wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Trwy gael y siop yn y dre fydd o'n arbed pobl rhag orfod mynd i lefydd fel Lerpwl a Manceinion am ddillad vintage da.
"Os mae pobl yn troi ffwrdd o'r agwedd o ddim isio gwisgo stwff ail-law a'n gweld y quality sydd ar gael yn y sector vintage, bydden nhw'n cael eu siomi ar yr ochr orau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023