'Sioc' busnesau am fygythiad i Swyddfa'r Post Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau Caernarfon yn poeni y byddai cau Swyddfa'r Post y dref yn "ergyd enfawr" i'r ardal.
Mae Swyddfa'r Post ar Y Maes yn un o bedair cangen sydd dan fygythiad yng Nghymru, yn dilyn cynlluniau a gyhoeddwyd fis yma.
Mae nifer o fusnesau'r dref yn defnyddio Swyddfa'r Post i fancio ac i bostio nwyddau sy'n cael eu gwerthu ar-lein.
Mae bron i 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb gan wleidyddion Plaid Cymru yn yr ardal i achub y safle.
Dywedodd Swyddfa'r Post eu bod yn edrych i drosglwyddo gwasanaethau Swyddfeydd Post y Goron i fanwerthwyr fel rhan o'u strategaeth newydd.
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Ar draws y DU, mae'n bosib y gallai hyd at 115 o ganghennau gau a channoedd o weithwyr golli eu swyddi wrth i'r busnes geisio ailstrwythuro.
Mae tua 1,000 o bobl yn gweithio yn y canghennau hyn, ac mae pedair Swyddfa'r Post y Goron o Gymru ar y rhestr - yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Gallai hyn olygu fod manwerthwyr fel WHSmith yn cymryd rheolaeth o rai o'r canghennau.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gadarnhaodd Swyddfa'r Post y bydd y gangen yng Nghricieth yn cau ar ddiwedd mis Ionawr wedi i'r postfeistr yno ymddiswyddo.
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio bod gwasanaethau post yng Ngwynedd "mewn argyfwng".
Fe agorodd Dylan Jones ei siop dillad retro Cymro Vintage ar Stryd y Plas ym mis Ebrill.
Fel nifer o fusnesau eraill, mae'n dibynnu ar Swyddfa'r Post i bostio'r eitemau mae'n gwerthu ar-lein ac am arian i'r til.
"Mae o mor gyfleus fod o'n ganol dre'. Dwi'n defnyddio'r Swyddfa Bost sawl gwaith yr wythnos - yn ddyddiol os mae'n brysur," meddai.
"Ar y foment, os dwi'n cael ordor ar-lein, fedra i bigo i'r Swyddfa Bost i'w bostio.
"Os mae'n cau, fydd o'n boen i gymryd amser allan i deithio i'r Swyddfa Bost agosa' - mae'n amser ychwanegol o'r diwrnod.
"Os dwi'n gorfod cau'r siop am hirach - yn lle pum munud i bigo allan - mae o am gael effaith ar y busnes."
'Gwasanaeth rhagorol'
Mae Dylan yn gwybod ei fod yn gallu dibynnu ar "wasanaeth rhagorol" Swyddfa'r Post ar Y Maes.
Dywedodd y byddai cau Swyddfa'r Post yn golled, hyd yn oed os ydy'r gwasanaeth yn cael ei gymryd drosodd gan gwmni arall.
"O fy mhrofiad i o fynd i swyddfeydd post mewn siopau eraill, mae 'na fwy na un peth yn mynd ymlaen, 'di o ddim mor gyfleus.
"Mae'r gwasanaethau i gyd ar gael yn Swyddfa Bost Caernarfon a ti'n gwybod fedri di ddibynnu arna fo achos dyna maen nhw'n 'neud.
"Dim amarch i'r bobl sy'n 'neud o yn y siopa, ond yn aml mae'n teimlo bo' nhw 'di cael last minute training. Mae popeth yn fwy cyfleus gyda'r Swyddfa Bost."
'Helpu busnesau eraill'
Yn ogystal â'r anghyfleustra y byddai cau Swyddfa'r Post yn ei achosi, dywedodd Dylan y byddai effaith ehangach ar fusnesau'r dre'.
"Mae'r Swyddfa Bost wastad yn brysur - dio'm yn 'neud sense i gau o. Mae'n denu pobl at y dre' achos mae o mewn lle cyfleus i'r pentrefi yn yr ardal.
"Mae'r bobl yna wedyn yn gwneud bach o siopa a chael paned a ballu, sy'n helpu busnesau eraill yn y dre'."
Dywedodd Jennifer Hanlon, sy'n rhedeg siop Lottie & Wren, y byddai cau Swyddfa'r Post yn "hynod o drist" a'n "golled arall i Gaernarfon" wedi i nifer o fanciau gau yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae gen i wefan i'r siop a dwi'n defnyddio'r Swyddfa Bost bob dydd," meddai.
"Mae'r banc o'n i'n bancio efo 'di cau a dwi'n defnyddio'r Swyddfa Bost i 'neud hynna rŵan felly fydda i wedi colli dau wasanaeth os mae'n cau.
"Mae'r bobl sy'n gweithio yna yn bobl sy'n siopa efo fi ac yn y dre, so mae'n gweithio'r ddwy ffordd.
"Mae cymaint o bobl sydd angen y gwasanaeth, pobl hŷn yn enwedig.
"Mae'n rhan fawr o'r gymuned a 'di o ddim yn gyfleus i bawb 'neud popeth ar-lein, a dydi pobl ddim eisiau 'neud popeth ar-lein.
"Mae o am gael effaith fawr os mae'n cau. Hyd yn oed hefo ymwelwyr - pob haf fydda i'n cael rhywun yn dod i mewn yn chwilio am y Swyddfa Bost.
"Mae pethau fel hyn bob tro yn cael knock-on effect."
Dywedodd Bethan Wynne, sy'n rhedeg y siop Na-Nôg ar Y Maes, ei bod hi hefyd yn defnyddio Swyddfa'r Post yn ddyddiol.
Roedd y cyhoeddiad fod y gangen dan fygythiad yn "sioc" iddi achos "mae'n brysur yna trwy'r amser".
"Mae cwsmeriaid ni wedi dychryn fod o dan fygythiad.
"Mae o' n bechod mawr i dre' achos mae o'n denu pobl yma a mae llai a llai o fanciau yma a rheiny'n cyfeirio pobl i'r post, felly ma'n rhoi pobl mewn twll tywyll.
"Os mae'r Swyddfa Bost yn cau, lle mae pobl am fynd os maen nhw angen gwasanaeth wyneb-i-wyneb?
"Os fysa'r gwasanaeth yn cael ei allforio i ryw siop, fyswn i'n gobeithio bydd y gwasanaeth yn rhedeg yr un fath a ddim yn cael ei dorri.
"Fydd o'n amharu arna ni os rhaid i ni fynd â'r sachau pres i rywle tu allan i'r dre' bob dydd.
"Os mae staff angen gyrru i rywle efo'r sachau wedyn mae hynna'n sefyllfa yswiriant - mae'n creu problemau."
'Ergyd enfawr'
Dywedodd Nigel Strain, rheolwr ardal gwella busnes HWB Caernarfon y byddai cau'r safle yn "golled enfawr i’n cymuned a’n busnesau".
"Mae’r gwasanaeth yn amhrisiadwy ar sawl lefel – hanfodol i grwpiau bregus sy’n dibynnu ar wasanaeth wyneb yn wyneb, angor sy’n denu pobl i’r dref i wario yn y siopau a’r caffis, pwysig i fusnesai sydd angen gyrru parseli, yn aml yn cael ei ddefnyddio fel amnewid i’r banciau niferus sydd wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.
"Byddai ei gau yn ergyd enfawr yn ystod cyfnod sydd eisoes yn heriol iawn i fusnesau’r dref."
'Ystyried amrywiaeth o opsiynau'
Mae Swyddfa'r Post yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys cystadleuaeth gan gwmnïau dosbarthu parseli eraill fel Evri, a'r ffaith fod llai o bobl yn gyrru llythyron, ac o ganlyniad mae refeniw y canghennau yn cael ei effeithio.
Bwriad yr ad-drefnu yw sicrhau fod y busnes mewn gwell lle yn ariannol.
Dywedodd lefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i leihau ein costau canolog.
"Mae hyn yn cynnwys ystyried dyfodol ein canghennau sy'n cael eu rheoli yn uniongyrchol, sy'n gwneud colled.
"Ein huchelgais cyhoeddus ers amser maith yw i symud i rwydwaith masnachfraint lawn ac rydym mewn deialog gyda’r undebau ynghylch opsiynau ar gyfer y dyfodol i'r canghennau rydym yn eu rheoli'n uniongyrchol."