Streic y glowyr: Cyfarwyddwr fideo ABBA yn dychwelyd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Ar ôl saethu un o fideos cerddoriaeth olaf un o fandiau pop mwya'r byd - ABBA - fe deithiodd y cyfarwyddwr, Kjell-Åke Andersson, o Sweden i Gymru.
Roedd e eisiau ffilmio bywyd pob dydd yng nghymunedau glo y de yn ystod streic y glowyr yn 1984/85.
Mae ei ffilm ddogfen, Breaking Point, yn canolbwyntio ar lowyr yn Oakdale a phentrefi agos yn Sir Caerffili, fis cyn i'r streic ddod i ben.
"Roeddwn i eisiau dangos cryfder ac undod y glowyr yn lle propaganda llywodraeth Thatcher," meddai Kjell-Åke, sy'n 75 oed.
Fe ddychwelodd y cyfarwyddwr ffilmiau i gymoedd de Cymru i gwrdd â rhai o'r teuluoedd yn ei ffilm am y tro cyntaf ers bron i 40 o flynyddoedd.
Mae Ray a Kath Francis, sy'n byw yn yr un tŷ yn Ystrad Mynach, yn ymddangos yn gyson yn y ffilm.
Yn 1984/85, roedd Ray ymysg 22,000 o lowyr eraill yng Nghymru oedd ar streic.
Fe ymunodd Kath â nifer o wragedd glowyr eraill oedd yn cefnogi'r streic trwy sefydlu grwpiau casglu a dosbarthu pecynnau bwyd.
"Pan gwrddais i â Kath a Ray eto, roedd yn brofiad emosiynol iawn i fi - ac i gwrdd â nhw yn yr un tŷ 40 o flynyddoedd yn ddiweddarach - roedd hwnna mor emosiynol," meddai Kjell-Åke.
Roedd cyfryngau'r byd â diddordeb yn streic glowyr Prydain yn yr 1980au.
Ond roedd Kjell-Åke yn teimlo bod y cyfryngau rhyngwladol yn portreadu ymddygiad y glowyr mewn ffordd anffafriol ac annheg.
Dywedodd bod ganddo deimlad o agosatrwydd tua'r glowyr wedi iddo dreulio misoedd ym mhentref Bargoed fel ffotograffydd yn ystod streic y glowyr ym 1974.
"Yn 1984, roeddwn i'n grac achos roedd y papurau newydd a'r newyddion ar y teledu yn disgrifio'r streic o safbwynt Mrs Thatcher a roeddwn i'n casáu hynny, felly roedd yn rhaid i fi fynd yna i wneud ffilm ddogfen achos roedd hynny ddim yn iawn," ychwanegodd.
Dywedodd Kjell-Åke ei fod e eisiau adlewyrchu cryfder undod y glowyr yng nghymoedd y de a dangos sut oedd cefnogaeth y menywod yn rhan hanfodol o'u gallu nhw i streicio am flwyddyn gyfan.
Fe wnaeth y streic drawsnewid bywydau nifer o fenywod gan gynnwys Kath Francis, ag aeth i'r brifysgol yn y pen draw er mwyn astudio i fod yn weithiwr cymdeithasol.
Yn ôl ei gŵr, Ray, roedd y profiad o ymuno â'r dynion ar y llinell piced a threfnu'r casgliadau bwyd wedi codi ei hyder.
"Er roedd y streic yn gyfnod anodd iawn, roedd e hefyd yn brofiad hyfryd i ni," meddai Ray.
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd4 Mai
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
"Roeddwn i'n mynd â'r plant i'r ysgol weithiau. Nes i ddysgu i goginio. Fe wnaethon ni rannu'r gwaith o amgylch y tŷ.
"I fi, a fe fydd nifer o bobl eraill yn cytuno, heb ymdrechion y menywod, bydden ni ddim wedi parhau â'r streic am gyfnod mor hir," meddai Ray.
Yn ôl Kjell-Åke, fe ddysgodd bod rolau rhai menywod yn newid.
"Rwy'n credu y cafodd y streic effaith da ar y menywod a chafodd gyfle i weithredu, nid yn unig fel menywod neu fel gwragedd, ond hefyd i raddau, roedden nhw ar yr un lefel â'r dynion. Roedden nhw ar flaen y gad."
Yn ystod y ffilm mae Kath a rhai menywod eraill i'w gweld yn cnocio ar ddrysau yn eu hardal lleol yn gofyn am roddiadau bwyd neu arian i'r glowyr.
Mae menyw arall, Margaret Matthews, yn mynegi ei rhwystredigaeth yn ystod cyfarfod y pwyllgor bwyd lleol am fod nifer o lowyr yn gwrthod helpu'r menywod gyda'r casgliadau.
Mae ei atgof o'r digwyddiad yn aneglur 40 o flynyddoedd yn ddiweddarach ond fe ddywedodd: "Fe wnaeth ysgrifennydd y gyfrinfa ffonio fy ngŵr a gofyn iddo fe gau fy ngheg achos roeddwn i'n ypsetio'r dynion eraill.
"Roeddwn i'n berson tawel. Dwi dal yn dawel ond fe wnaeth y sefyllfa hynny fy ngwylltio. Roedden ni'n brwydro am ein bywydau," meddai Margaret.
Fe gynyddodd y tlodi a'r anobaith yn ystod cyfnod y streic ac fe arweiniodd hynny at nifer o lowyr ar draws Prydain yn dychwelyd i'r gwaith.
Ar 3 Mawrth 1985, fe ddychwelodd y glowyr i'r gwaith glo dan orchymyn yr NUM.
Mae Breaking Point yn ceisio adlewyrchu cryfder undod cymunedau glo mewn un rhan o Gymru yn ystod yr hyn a ddaeth yn wythnosau olaf y streic.
Dywedodd Kjell-Åke nad oedd e'n ymwybodol ar y pryd y byddai'r streic yn dod i ben ychydig o wythnosau wedi iddo orffen ffilmio.
"Doeddwn i ddim yn teimlo bod y streic am gael ei dorri," meddai.
Ychydig ar ôl iddo ddychwelyd i Sweden, daeth y newyddion bod y streic ar ben.
"Amser byr oedd gen i er mwyn gwneud y ffilm ac fe ganolbwyntion ni ar un teulu ac ychydig o bobl eraill.
"Efallai, pe bawn ni wedi siarad â mwy o bobl mewn ardaloedd eraill yna byddwn i wedi gweld bod y streic yn dod i ben, ond dyna oedd fy mhrofiad i."