'Llwyddiant y Manics wedi'i danio gan streic y glowyr'
- Cyhoeddwyd
"Fe wnes i ennill y Brit Awards a ro'n i'n byw mewn tŷ glöwr."
Mae Nicky Wire o'r band Manic Street Preachers wedi edrych yn ôl ar sut y gwnaeth streic y glowyr ym 1984 helpu i siapio caneuon enwocaf y band.
Aeth ei frawd, Patrick Jones, ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel bardd a dramodydd.
Dywedodd y ddau ddyn fod y blynyddoedd cynnar hynny wedi rhoi “ffyrnigrwydd dosbarth gweithiol” ynddynt sy’n parhau i danio eu celf.
Bu Nicky a Patrick yn siarad â BBC Cymru o amgylch Coed Duon ac Oakdale, lle cawsant eu magu yn sir Caerffili, fel rhan o gyfres i nodi 40 mlynedd ers y streic.
Dywedodd Nicky ei fod yn cofio ysgrifennu'r gân 1996 'A Design for Life' pan oedd yn byw yn y Coed Duon - cân y dywedodd ei fod "wedi ei gwreiddio yng nghymoedd de Cymru".
"Cynddaredd ac anobaith yr amseroedd hynny yw'r brif rydweli sy'n aros gyda mi," meddai.
Roedd streic y glowyr ar y blaen yn fawr ym mlynyddoedd cynnar y brodyr. "Mae'n graith dal i fod mewn gwirionedd," meddai Nicky.
Mae'r ddau ddyn yn canmol eu magwraeth dosbarth gweithiol llawn gwleidyddiaeth â'u llwyddiant.
Cafodd y Manics ei ffurfio yn Ysgol Gyfun Oakdale ym 1986 - gan ennill y grŵp Prydeinig gorau yn y Brit Awards ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach ym 1997.
“Y delyneg gyntaf i mi ei hysgrifennu erioed gyda James Dean Bradfield oedd trac o’r enw Aftermath, roedd yn ymwneud â streic y glowyr, dyna’r gân gyntaf i ni ei hysgrifennu gyda’n gilydd erioed,” meddai Nicky.
“Roedd yn anochel mewn ffordd i ni.”
Dywedodd Nicky fod albwm 1998 y Manics, This Is My Truth Tell Me Yours, wedi'i chysegru i'r pwll olaf cyn iddo gau.
Ysgrifennodd Patrick y ddrama boblogaidd Everything Must Go am arwr wedi'i osod mewn cymuned dosbarth gweithiol yng nghymoedd de Cymru.
“Wrth dyfu i fyny, fe gawson ni fagwraeth dosbarth gweithiol syml iawn - erioed wedi mynd ar wyliau tramor,” meddai Patrick.
Yn y 90au cynnar, wrth i fwyngloddiau ddechrau cau ar draws y DU, recordiodd y Manics eu halbwm cyntaf, Generation Terrorists, yn dal sŵn chwyldro - cerddoriaeth streic.
“Roedd ein halbwm cyntaf yn llawn cynddaredd a dinistr pur,” meddai Nicky.
"Mae 'na ryw dicter dosbarth gweithiol sy wedi gwreiddio'n ddwfn. Mae yn ein DNA ni."
Dywedodd Nicky fod y band wedi cael ei ysbrydoli gan y glowyr eu hunain - y sefydliadau a'r llyfrgelloedd a adeiladwyd ganddynt.
“Ro'n ni’n meddwl, ni ddim yn mynd i ddibynnu ar unrhyw un mewn gwirionedd, dim ond y pedwar ohonom sydd mewn ystafell wely, yn ysgrifennu llythyrau,” meddai Nicky.
"Roedd hynny'n ysbrydoledig, y syniad y gallech chi adeiladu eich henebion eich hun."
Dywedodd Nicky ei fod yn cofio Patrick yn sylwi ar "ddwylo cnotiog cyn-lowyr" yn y canolfannau gwaith yn llenwi ffurflenni budd-daliadau.
"Roedd yn ymddangos bod urddas wedi'i rwygo o'n hamgylchedd," meddai Nicky.
Bu cerddoriaeth ac areithiau yn symbylu cymunedau yn ystod y streic.
Roedd bandiau pres yn cyfeilio colofnau o lowyr yn gorymdeithio yn ôl i waith.
Ar bicedi, roedd areithiau'n dal y naws dywyll ond herfeiddiol.
Dywedodd Patrick: “Fe wnes i greu ysbryd mewnol fy hun o hynna - a byddaf yn siarad fy ngwirionedd.
“Do'n i ddim yn mynd i fod yn drefnydd undeb, allwn i ddim gwneud hynny, ond gallwn i ysgrifennu - felly dyna oedd fy llwybr,” meddai.
Yr olygfa hon, yn fwy nag unrhyw un arall, a luniodd waith Nicky a Patrick.
"Roedd yn teimlo bod rhywbeth wedi torri'n arw, yn doredig iawn, sydd wedi cymryd amser hir i'w drwsio, os o gwbl," meddai Nicky.
“Ro’n i’n teimlo bod rhywbeth wedi newid am byth... mae cymunedau wedi newid am byth.
“Nhw a ni oedd e, ac fe wnaethon nhw geisio rhannu a choncro - os edrychwch chi ar dai, addysg, hawliau gweithwyr, mae’r cyfan wedi’i dorri i ffwrdd.”
Dywedodd Nicky ei fod yn credu bod diffyg gweledigaeth wedi bod ar gyfer cyn gymunedau glofaol, sydd, meddai, oherwydd penderfyniadau llywodraethau'r presennol a'r gorffennol.
“Rwy’n ffodus, rwyf wedi fy insiwleiddio, am yr ugain, deng mlynedd ar hugain diwethaf nid wyf wedi gorfod delio â’r pryderon y mae’n rhaid i lawer o bobl ddelio â nhw bob munud,” meddai.
“Dydw i ddim yn un i farnu amgylchiadau pobl eraill oherwydd rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i osgoi llawer o'r rhai drwg.
"Mae'r etifeddiaeth hyd yn oed yn bwysicach - os edrychwn ni ar y mudiadau protest heddiw, roedd y glowyr yn gwneud hynny ac yn codi llais ac yn herio pethau oedd yn anghywir yn eu barn nhw 40 mlynedd yn ôl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf