Pride Cymru: 'Does dim rhaid mynd i'r dinasoedd mawr'
- Cyhoeddwyd
A hithau'n 25 mlynedd ers digwyddiad cyntaf Pride Cymru, mae'r awdur Mike Parker yn dweud bod pethau wedi symud ymlaen i bobl hoyw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.
Gyda thref Machynlleth yn cynnal eu Pride cyntaf eleni, mae Mike yn dweud bod hynny'n arwydd o sut mae pethau wedi datblygu i'r 'queer rural'.
Ar raglen Bore Sul Radio Cymru dywedodd: “Pan nes i sgwennu llyfr fi On the Red Hill – a daeth e allan dim ond pum mlynedd yn ôl - oedd e’n un o’r llyfrau cyntaf rili i son am be’ dwi’n galw ‘the queer rural’.
"Ond hyd yn oed yn y pum mlynedd diwethaf ers daeth e allan, mae’r datblygiadau yn cefn gwlad rili wedi newid yn gyflym iawn a ‘dan ni wedi gweld eleni y Pride Machynlleth cyntaf, er enghraifft."
Cafodd digwyddiad 'Balchder Machynlleth' ei gynnal yn y dref ar 18 Mai eleni.
Mae Mike yn dweud ei fod yn falch o weld sut mae Pride Cymru wedi datblygu, nid yn unig ym Machynlleth ond mewn sawl rhan o Gymru.
Dywedodd: "Ma' a lot o drefi dros Cymru yn neud yr un peth, lot o drefi bach yn dathlu gwyliau Pride eu hunain, felly does dim rhaid i ni fynd i’r ddinasoedd mawr... 'dan ni’n gallu dathlu fan hyn hefyd, mae’n ffantastig."
Mae'r llyfr, On the Red Hill yn olrhain hanes bywyd ffrindiau Mike, Reg Mickisch a George Walton ac yn adlewyrchu sut mae agweddau tuag at bobl hoyw wedi newid dros y degawdau.
Roedd Reg Mickisch a George Walton yn gwpl hoyw oedd yn byw gyda’i gilydd am ddegawdau yn ardal Machynlleth, pan roedd pethau’n anoddach i bobl hoyw.
Mae Mike a’i bartner Peredur yn byw yn hen gartref y ddau, sydd bellach wedi marw.
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021
Dywedodd Mike: "I fod yn rhan o Pride yn Machynlleth... y dref lleol i Reg a George hefyd jest i weld y baneri ar y stryd fawr ac i weld y baneri Pride a ffenestri bob un siop yn llawn o pethau yn marcio mis Pride a dathlu Pride – rili mae’n bwysig iawn.
"Pan nes i weld o am tro cynta, ro'n i’n ystyried ymateb, er enghraifft rhyw blentyn yn yr ysgol uwchradd sydd yn poeni am ei rywioldeb neu hunaniaeth ac yn jest gweld y cefnogaeth ar ei stryd fawr yn ei dref nhw mae hynny mor bwysig i ni gyd.”
Mae Mike yn dweud bod Pride yn "bwysig dros ben" ond mae'n rhaid cofio pam ei fod yn bodoli yn y lle cyntaf.
"Daeth Pride allan o brotestio", meddai.
"Mae’n bwysig i gofio hynny oherwydd mae’n esgus am barti wrth gwrs ac mae’n bwysig i gael parti hefyd.
"Ond dyla ni gofio bob tro - ledled y byd - mae dal pobl LGBT sydd yn mynd i’r carchar oherwydd eu rhywioldeb hyd yn oed mynd i farwolaeth, so mae e’n bwysig i cofio y problemau a’r protestio.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021