Pride: 1,000 yn gorymdeithio drwy Gaernarfon
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sadwrn daeth dros 1,000 o bobl i strydoedd Caernarfon i ddathlu'r gymuned LHDTC+.
Roedd y dref yn fwrlwm o liw a synau drymiau wrth i orymdaith Pride Gogledd Cymru deithio o dop Stryd Llyn tuag at Neuadd y Farchnad.
Mi gafodd Balchder Gogledd Cymru ei sefydlu yn 2011 er mwyn dathlu'r gymuned LHDTC+ a chynnig cyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd gan geisio lleihau unigedd gwledig.
Gyda'r diwrnod yn cynnwys gigs gan artistiaid fel Tara Bandito, Achlysurol, Lily Beau a Ffatri Jam yn perfformio, roedd hefyd stondinau a gweithdai yn y dref.
Daeth yr orymdaith wythnos wedi i dros 10,000 o bobl ddathlu Pride Cymru drwy strydoedd Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf.
Dywedodd Stacey Roebuck o Amlwch, Is-gadeirydd Balchder Gogledd Cymru: "Fel person hoyw fy hun roedd yn neis cael rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned LHDT+ yng ngogledd Cymru.
"Doeddan ni ddim yn expectio gymaint o bobl i droi allan ond y ffaith fod na gymaint yma wedi dod i ddathlu amrywiaeth, mae'n amazing o deimlad.
"Yn rhywle mor wledig a hyn mae 'na gymuned LGBT ac mae'n neis i ddathlu."
Roedd Gethyn Hughes yn mynychu ei ddigwyddiad Pride cyntaf, ac roedd yn falch o'i weld yn digwydd ar ei stepen drws.
"Mae'n neis cael dathlu pwy ydan ni heb orfod cuddio," meddai.
"Mae'n neis fod o mor lleol hefyd, heb orfod mynd dwy awr lawr yr A55, a chael amgylchedd mor neis...Mae'n gwneud i mi eisiau dod i fwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023