Creadigrwydd Cricieth 'yn llesol i bawb'
- Cyhoeddwyd
Mae'r grŵp celf cymunedol 'Cricieth Creadigol' ar restr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2024, "am ddod â phobl at ei gilydd".
Tynnu sylw at weithgareddau creadigol sy'n digwydd mewn cymunedau lleol ydy nod y gwobrau.
Gyda'r pleidleisio yn dod i ben ddydd Llun, 29 Gorffennaf, mae’r cyhoedd wrthi'n dewis enillydd i'r wobr 'Dewis y Bobl' 2024.
Mae 34 o grwpiau creadigol ar y rhestr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 26 Medi.
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
O furluniau, mosaigau, i bantomeim, barddoniaeth a ffotograffiaeth; mae Bywydau Creadigol yn dathlu creadigrwydd bob dydd grwpiau o fewn cymunedau.
Yn ôl Dr Catrin Jones, Clerc Cyngor Tref Cricieth, mae grŵp Cricieth Creadigol wedi dod â phobl o bob oed at ei gilydd, ac wedi gwella’r dref ar gyfer pobol leol a thwristiaid.
Dywedodd: “I anrhydeddu ein gorffennol a’n presennol, mae gwneuthurwyr ffilm, llawer o baent, celf a chrefft, a garddio wedi cael eu defnyddio i gyfoethogi bywiogrwydd y gymuned tra ar yr un pryd yn gwella ansawdd bywyd i drigolion ac ymwelwyr, yn ogystal â lledaenu negeseuon cariad, tosturi a chynhwysiant.
"Ymhlith y prosiectau cyffrous niferus rydyn ni wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae gweithiau creadigol i sicrhau bod yr ardal yn edrych yn ddisglair a chroesawgar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023, murlun, llyfr a ffilm.”
Ac yn ôl Cadeirydd cyngor tref Cricieth, y cynghorydd Delyth Lloyd, mae'r grŵp wedi dod â siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg at ei gilydd.
Dywedodd: "Rydym yn hynod o falch bod ein prosiectau arloesol wedi cael eu cydnabod gyda Gwobr Bywydau Creadigol Cymru yn 2021, a dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr."
"Mae ein prosiectau - llawer mewn partneriaeth - wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, ysgol leol Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion-Dwyfor, artistiaid unigol a doniau creadigol eraill.
"Yn ogystal â hyrwyddo creadigrwydd, maent wedi helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
"Y sbardun creadigol fu ymdrechion cymunedol, gan dynnu ar dalentau o ar draws y cenedlaethau, o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd ac o holl ardaloedd y dref a sawl milltir o gwmpas.’
'Rhywbeth sy'n llesol i bawb'
Meddai Anwen Jones, sy'n gydberchennog busnes trin gwallt 'Igam Ogam' ar y stryd fawr yng Nghricieth ers 20 mlynedd: "'Da ni fel busnes yn falch iawn o waith caled y bobl leol sydd yma, achos ma' nhw'n rhoi hwb i dwristiaeth ac i'r gymuned yma, felly mae o'n rhywbeth sy'n llesol i bawb.
"A'r ffaith hefyd fod Cricieth am gael ei hadnabod mewn dinas fawr fel Llundain, rhaid i ni gofio mai tref fach iawn ydan ni yma, a 'da ni'n falch iawn o'u gwaith nhw."