Pennaeth newydd Cytûn: 'Canser wedi dyfnhau fy ffydd'
- Cyhoeddwyd
Dywed pennaeth newydd y corff sy'n gyfrifol am eglwysi yng Nghymru fod profiadau personol heriol diweddar wedi ei gymell i geisio am y swydd.
Siôn Brynach ydy prif weithredwr newydd Cytûn - eglwysi ynghyd yng Nghymru, a bydd yn dechrau ar y swydd ym mis Ebrill.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd fod y profiad o gael canser, ynghyd â digwyddiad a achosodd anafiadau difrifol i'w wraig, wedi "dyfnhau ei ffydd".
"Mi ges i ganser y brostad yn 2018 a dwi bellach wedi gwella ond fe wnaeth y profiad fy atgoffa o'n meidroldeb ni fel pobl ac mai hyn a hyn o amser sydd gennym ar y ddaear 'ma," meddai Mr Brynach.
"Fe wnaeth yr holl brofiad ddyfnhau fy ffydd a fy nghymell i drio am y swydd yma gyda Cytûn. Rhaid gwneud yn fawr o bob cyfle."
Bydd Mr Brynach, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru, yn olynu Aled Edwards.
'Siwrne o adferiad'
Dywed Mr Brynach bod gwrthdrawiad a anafodd ei wraig yn ddifrifol yn Hydref 2020 hefyd wedi rhoi golwg wahanol iddo ar fywyd.
"Roedd Cath yn cerdded yn Nhreganna pan gafodd ei gwasgu yn erbyn wal gan gar llonydd a oedd wedi'i daro gan fan," eglurodd.
"Bu'n anymwybodol am wythnos ac mae'r digwyddiad wedi'i gadael gydag anafiadau sydd wedi newid ei ffordd o fyw.
"Bu mewn cadair olwyn am gyfnod a bellach mae wedi cael coes prosthetig - mae wedi bod yn siwrne o adferiad ond mae hi'n gwbl benderfynol.
"Ers y profiadau yma mae darlleniadau'r diwrnod - y rhai boreol a'r hwyrol weddi - wedi fy nghynnal i'n fwyfwy. Maen nhw'n cynnig rhywbeth newydd bob dydd - yn fy herio ond yn rhoi cynhaliaeth hefyd."
Yn 2020 cafodd Mr Brynach ei ordeinio'n ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn offeiriad yn 2022.
Mae wedi gwasanaethu fel curad cynorthwyol hunangynhaliol yn Eglwys Crist, Parc y Rhath, Caerdydd ers 2020.
Wrth gael ei holi am y swydd o fod yn brif weithredwr, dywed Mr Brynach y bydd pontio enwadau yn flaenoriaeth ond mai'r hyn fydd yn fwyaf pwysig yw "pontio gyda'r byd ehangach".
"Mae hi'n fwy pwysig nawr nag erioed bod eglwysi - beth bynnag eu henwad - yn ymateb i anghenion pobl. Rhaid sicrhau gofod i'r sgyrsiau yna ddigwydd."
'Pandemig wedi denu pobl newydd'
Wrth ymateb i ffigyrau diweddar bod llai o bobl yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, dywedodd nad oedd y ffigyrau yn fawr o syndod ond bod yna sawl achos o eglwysi yn tyfu a bod sawl arfer da wedi digwydd yn ystod y cyfnod clo.
"Mae'r eglwys rwy'n gofalu amdani yn Y Rhath yn ffynnu, a nifer eraill. Roedd y cyfnod clo yn anodd i nifer ond fe ddenodd eglwysi bobl newydd.
"Fe aethon i lefydd lle mae pobl yn dymuno bod. Rhaid peidio cefnu ar y nifer o bethau da a ddaeth yn sgil y pandemig."
Fe fydd Siôn Brynach yn parhau â'i waith yn Eglwys Crist, Parc y Rhath.
"Yn y fan honno fe fydda i'n dod ar draws pobl go iawn ac mae hynny mor bwysig," ychwanegodd.
Cafodd Mr Brynach ei eni ym Mangor a'i fagu yn Nyffryn Nantlle a Gorseinon, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol gyda gogledd Sir Benfro a Cheredigion hefyd.
"I ddweud y gwir dwi'n meddwl bo' fi wedi cael fy magu ar gyfer y swydd hon," ychwanegodd.
"Mae eciwmeniaeth yn fy ngwaed. Cyn dod yn Esgob Bangor roedd fy nhad yn offeiriad mewn sawl ardal - ac ymhob ardal y buon ni'n byw roedd cydweithio gydag enwadau ac eglwysi eraill yn hynod o bwysig i ni yn y cartref.
"Fe ddaeth fy nhad, Saunders Davies, o dan ddylanwad eciwmenaidd rhyfeddol cyn-Archesgob Cymru, y Parchedicaf G O Williams - y dyn a wnaeth gadeirio pwyllgor Beibl Cymraeg newydd 1988."
O gofio fod ei ragflaenydd yn Cytûn, Aled Edwards, wedi cydweithio llawer gyda gwleidyddion ym Mae Caerdydd dywedodd Mr Brynach ei fod am barhau i wneud hynny ond ei bod hi'n bwysig cael cydbwysedd.
"Mae'n rhaid i eglwysi a sefydliadau crefyddol fod yn effro i'r hyn sy'n digwydd wrth gwrs ond rhaid i ni beidio cael ein tynnu mewn i fod yn rhan o'r sefydliad," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi cydweithio gyda'r cyn-Archesgob Barry Morgan ar y grŵp pwyso Cymru Yfory - grŵp hyrwyddo argymhellion Comisiwn Richard ac agweddau eraill ar gynyddu'r broses ddatganoli yng Nghymru.
Dywedodd Cadeirydd Cytûn, Dr Patrick Coyle, fod y penodiad yn "gyfnod o gyffro ac edrych tua'r dyfodol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Medi 2022