Newid ffyrdd yn ôl i 30mya i gostio £3m-£5m
- Cyhoeddwyd
Bydd newid rhai ffyrdd yn ôl i 30mya yn costio rhwng £3m a £5m, meddai ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates ei fod yn “fymryn” o’r £32m a wariwyd ar gyflwyno’r gyfraith 20mya saith mis yn ôl.
Dywed Mr Skates y bydd ei adran yn dod o hyd i'r arian, ac ni fydd cynghorau yn talu'r bil.
Dydd Mawrth gwahoddodd Mr Skates y cyhoedd i gysylltu â’u cynghorau lleol os ydyn nhw am newid terfynau cyflymder, gan ddweud y byddai ffyrdd yn dechrau dychwelyd i 30mya ym mis Medi.
Mae'n dweud y dylai'r terfyn cyflymder gael ei "dargedu" er mwyn amddiffyn pobl, ond cafodd ei feirniadodd gan y Ceidwadwyr am beidio â dileu'r gyfraith 20mya yn llwyr.
Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mr Skates y byddai'r rhan fwyaf o'r gost yn mynd ar lafur.
“Rydyn ni wedi cynnal amcangyfrifon cynnar o hynny,” meddai.
“Credwn y bydd yn fymryn o’r costau o weithredu polisi.
“Felly rhwng £3m a £5m yw’r hyn rydyn ni’n ei amcangyfrif.
“Ni fydd yn mynd ar ysgwyddau awdurdodau lleol – fe fyddwn ni’n dod o hyd i’r arian hwnnw.”
'Gwrando ar bob barn'
Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan: “Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o blaid terfyn cyflymder is yn eu cymdogaethau, yn enwedig y rhai sy’n cerdded neu’n beicio i’r gwaith neu’r ysgol, ond mae angen mwy o hyblygrwydd arnom, yn enwedig o ran priffyrdd.
"Mae rhai ffyrdd wedi'u cynnwys na ddylai fod wedi'u cynnwys.
"Fel y gwelsom o'r ddeiseb, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi mynegi pryder ynghylch rhai o'r ardaloedd lle mae'r newid wedi'i gyflwyno ac felly mae'n iawn inni wrando ar bob barn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Ebrill