Cyflymder wedi gostwng ar gyfartaledd ar ffyrdd 20mya
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau'r arolwg cyntaf o ymateb gyrwyr Cymru i ostwng terfyn cyflymder ar dros draean ffyrdd Cymru yn dangos bod cyflymder cyfartalog wedi gostwng - ond bod y mwyafrif yn gyrru'n gyflymach na 20mya.
Yn ôl y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, mae'r canlyniadau'n "drobwynt" ac yn "dystiolaeth glir bod cyflymder cyfartalog yn gostwng ar ffyrdd ledled Cymru".
Disgrifio'r canlyniadau fel prawf fod polisi dadleuol Llywodraeth Cymru yn "wastraff llwyr o amser ac adnoddau" wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
Nôl ym mis Mehefin, fe gafodd ffyrdd mewn naw ardal ar draws Cymru eu dewis i fod yn rhan o'r ymchwil fyddai'n mesur cyflymder cerbydau cyn ac ar ôl i'r ddeddf ddod i rym.
Roedd yr ardaloedd yn cynnwys Llanrug, Bae Penrhyn a Wrecsam yn y gogledd, Casnewydd, Cwmbrân a Phont-y-pŵl yn y de-ddwyrain, a Doc Penfro, Llanbedr Pont Steffan a'r Drenewydd.
Doedd dim rhwystrau i leihau cyflymder, dim camerâu cyflymder a doedd dim llinellau dwbl melyn i atal ceir rhag parcio ar ochr y ffordd.
Roedd 'na rwydd hynt i yrwyr yrru mor gyflym ag y mynnen nhw, ond cadw o fewn y gyfraith wnaeth mwyafrif llethol y 3.4m o gerbydau yn ystod y mis dan sylw.
Yn ôl data'r llywodraeth roedd y traffig yn teithio ar gyfartaledd o 28.9 milltir yr awr.
Rhyw ddeufis ar ôl i'r llywodraeth gyflwyno'r ddeddf, fe aeth swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn ôl i'r un ffyrdd, a mesur cyflymder y traffig unwaith yn rhagor.
Ar ôl mesur cyflymder dros filiwn a hanner o gerbydau mewn pythefnos, y cyflymder cyfartalog ar draws y naw ardal oedd 24.8mya.
Er bod hyn yn gyflymach na'r terfyn newydd, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn dweud bod hynny'n "drobwynt" yn y ddadl, ac yn dystiolaeth glir bod cyflymder yn gostwng ar ffyrdd ledled Cymru.
Ardal Allt-yr-Ynn yng Nghasnewydd (23.1) a Wrecsam (23.2) oedd â'r cyfartaledd cyflymder agosaf at 20mya, ac yn Llanrug roedd y cyflymder cyfartalog uchaf - 26.6mya.
'Ymddygiad ac agweddau'n dechrau newid'
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod gostyngiad o 4mya, ar gyfartaledd, yn rhywbeth i fod yn falch ohono.
"Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir," meddai Mr Waters.
"Rydyn ni'n gwybod, ar sail data a gyhoeddwyd gan Gan Bwyll (Go Safe) yn gynharach yn y mis, bod 97% o yrwyr yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder arafach newydd... mae ymddygiad ac agweddau at y terfyn 20mya yn dechrau newid."
Ychwanegodd Mr Waters: "Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir.
"Mae pob gostyngiad o 1mya mewn cyflymder yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly mae hwn yn drobwynt go iawn.
"Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn glir - mae gyrru ar gyflymder is yn achub bywydau.
"Mae llai o wrthdrawiadau, llai o farwolaethau, a llai o anafiadau difrifol, gan leihau'r trallod i unigolion a'u teuluoedd a hefyd yr effaith enfawr ar y GIG a'r gwasanaethau brys eraill."
Ymateb cymysg i'r ddeddf newydd oedd draw yn Llanrug, sef un o'r ardaloedd oedd yn rhan o'r ymchwil i fesur cyflymder cerbydau.
Dywedodd Daniel Owen sy'n 18 "[does] neb yn neud o, dio'm yn helpu really cos 10 mile ydi o, dio ddim yn neud gwahaniaeth".
Fe ychwanegodd Kirsty Jones, 32 oed, fod "pobl just yn mynd yn rhy slow ac i fi roedd 30 yn ddigon slow a 'di pobl ddim yn sticio iddo fo, a wan ma pobl yn mynd yn fastach na pan oedd o'n 30".
"Ma ceir yn pasio wan a clearly ddim yn 'neud 20 ac i fod yn onest dwi ddim yn sticio fo i fy hun."
Ond mae Lauren Jones yn cytuno â'r ddeddf.
Dywedodd: "Dwi'n supportio'r 20 milltir yr awr yn enwedig yn Llanrug fan hyn o amgylch yr ysgol, ond dwi ddim yn siŵr faint o bobl neith aros i'r 20 mya limit yn enwedig ar lôn fawr."
"Fedrwch chi ddim 'neud mwy na 20 rownd cefna Llanrug, dio ddim yn saff i wneud, felly dwi'n hapus efo'r 20 mya."
Mae disgwyl i fwy o ddata gael ei ryddhau yn yr haf, fydd yn cynnwys rhagor o ardaloedd Cymru, gyda 37% o ffyrdd y wlad bellach â therfyn cyflymder o 20mya.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad a fydd, ar ôl ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, yn ganllaw i swyddogion cynghorau sir newid terfyn cyflymder ffyrdd os ydyn nhw'n teimlo fod 20mya - neu unrhyw gyflymder arall - yn anaddas.
Mae'r llywodraeth yn cydnabod nad oedd y drafodaeth gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r polisi yn ddigon da, ac y gallai fod wedi bod yn haws i ddeall ac yn fwy cynhwysfawr.
Maen nhw'n cydnabod hefyd fod yna anghysonderau gyda'r terfynau 20mya, fel ag yr oedd gyda therfynau cyflymder o 30mya ar rai ffyrdd, cyn i'r ddeddf ddod i rym.
Mae 'na gydnabyddiaeth hefyd gan ymchwilwyr ar ran y llywodraeth fod angen edrych yn fanylach ar y data i fesur yr effaith ar wasanaethau bws.
Cynghorau'n croesawu'r adolygiad
Wrth siarad am waith y tîm adolygu annibynnol, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan: "Mae arweinwyr cynghorau yn croesawu'r adolygiad o'r gweithredu ac o'r canllawiau cyfredol.
"Byddan nhw'n eu helpu i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu cymunedau.
"Mae cynghorau am fod yn rhan o'r adolygiad er mwyn gwneud yn siŵr bod y terfyn cyflymder iawn ar y strydoedd iawn.
"Er ei bod yn ymddangos bod yna rai ffyrdd lle nad yw'r terfyn cyflymder yn gywir, a bod angen i'r awdurdodau lleol ail edrych arno, rydyn ni wedi clywed gan rai cynghorau bod gwahaniaethau positif wedi cael eu gweld o ran cyflymder a diogelwch ar eu strydoedd, yn enwedig ymhlith pobl sy'n agored i niwed."
Mewn ymateb i'r ystadegau diweddaraf, dywedodd Ross Moorlock, prif weithredwr yr elusen diogelwch ffyrdd Brake: "Mae'n galonogol gweld bod y terfyn cyflymder newydd o 20mya wedi arwain at ostwng cyflymder cyffredinol ar y ffyrdd hyn.
"Bob dydd, mae pump o bobl yn marw ar ffyrdd y DU ac mae cyflymder yn ffactor ym mhob damwain.
"Y cyflymaf y byddwn ni'n gyrru, y mwyaf yw'r risg o gael damwain, a'r caletaf y bydd y gwrthdrawiad os cawn ni ddamwain."
Ond disgrifio'r polisi fel "gwastraff llwyr o arian ac adnoddau" wnaeth Natasha Ashgar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.
Mae hi'n dweud y bydden nhw'n cael gwared ar y ddeddf ar ddiwrnod cyntaf llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023