Teulu SPAR Caernarfon yn gadael ar ôl 33 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Gaernarfon yn dweud ei bod wedi bod yn "anrhydedd ac yn fraint" i redeg siop boblogaidd yn y dref am dros 33 mlynedd.
Dydd Iau bydd y teulu Jones yn dweud "hwyl fawr" i'w cwsmeriaid yn siop SPAR Min-Y-Nant ar Ffordd Llanberis wrth iddyn nhw "gau’r drws ar antur deuluol anghredadwy".
Bydd y siop yn aros ar agor gyda'r un staff, a chwsmer ffyddlon o'r ardal fydd yn ei rheoli.
Ond bydd Len a Ruth, eu plant Wayne a Lynne a'u partneriaid Maria a Dylan yn cael seibiant haeddiannol ar ôl blynyddoedd maith o wasanaeth.
Mae hanes y teulu ar y safle'n mynd yn ôl hyd yn oed ymhellach na'r 90au, pan oedd y siop bresennol yn ddau fusnes ar wahân.
Agorodd Ruth a'i chwaer Rita siop groser o'r enw Siop y Genod, a gafodd ei uno â'r siop drws nesaf i greu'r SPAR sydd yno heddiw.
Dywedodd Lynne, sydd wedi gweithio yn y siop ers roedd hi'n 12 oed, ei bod hi "'di bod yn crïo bob diwrnod" ers dweud wrth ei chwsmeriaid fod y teulu'n gadael.
"Dwi'n mynd yn emosiynol yn siarad hefo'r cwsmeriaid," meddai.
"Mae rhai pobl yn dod i'r siop ers oedden nhw'n blant, so 'da ni'n 'nabod nhw trwy'u bywydau.
"Wynebau cyfarwydd, pobl dwi 'di gweld gymaint o weithia' dros y blynyddoedd.
"Mae 'na gymaint o atgofion. Dwi'n cofio pan o'n i'n feichiog, 'naeth dŵr fi dorri tra o'n i ar y til, ag o'n i'n gorfod gweiddi ar Wayne, fy mrawd, i helpu fi!"
Mae rhedeg y siop yn waith caled a "'da ni ddim yn mynd yn 'fengach", meddai Lynne.
"'Da ni'n gweithio mor galed. Os ma' Wayne off, dwi yma - a vice versa. 'Da ni'm yn cymryd llawer o amser off, so 'da ni isio gwario mwy o amser efo'n gilydd.
"Ma' dad yn 85 rŵan hefyd, a 'naeth o agor y siop bob un bore tan ddaeth Covid.
"Dwi'n diolch i Dduw am Covid mewn ffordd, achos oedd o i fewn am 04:30 bob bore, bob tywydd, a wedyn 'naeth o roi stop iddi achos y pandemig."
Dywedodd Lynne mai ei mam sydd tu ôl i un o brif lwyddiannau'r siop - y deli, sydd mor boblogaidd ag erioed.
"Pan wnaethon ni gychwyn, oedd SPAR isio ni gael gwared o'r deli a wnaeth Mam dd'eud na.
"'Naeth hi insistio fod y deli bach yn aros. a hwnna di'r darn mwya' poblogaidd o'r siop dyddia' 'ma. Cadw'r deli oedd y peth gora' 'naethon ni."
Dywedodd y teulu mewn post ar dudalen Facebook y siop eu bod wastad wedi ystyried eu cwsmeriaid fel ffrindiau fydd "yn ein calonnau am byth".
Mae'r siop yn gwasanaethu cymuned "ffyddlon" o amgylch Ffordd Llanberis ar ochr ddwyreiniol y dref.
"Mae'r bobl yn brilliant. Maen nhw am ei gilydd - pawb fel rhyw deulu," meddai Lynne.
"Pobl gwych - y gorau. Dwi'n teimlo fel bod rhai 'di cael eu magu hefo ni.
"Dwi'm yn meddwl fod 'na dre' fel hon. Does 'na'm pobl fel pobl Gaernarfon.
"Nawn ni fethu fo - ma' hynny'n saff. 'Neith o gymryd dipyn i fo sincio fewn a dod i arfer efo peidio gorfod codi mor fuan!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd12 Mawrth