Dynes dalodd £15,000 i rewi wyau yn galw am fwy o wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a wariodd £15,000 ar rewi ei hwyau oherwydd cyflwr iechyd yn dweud bod angen gwell ymwybyddiaeth o gyflyrau a all effeithio ar ffrwythlondeb.
Mae Sophie Richards, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth oherwydd cyflwr endometriosis.
Yn ystod un llawdriniaeth yn 2021 fe gafodd Sophie wybod y gallai golli ei hofarïau. Roedd yr endometriosis wedi achosi llid y pendics (appendicitis).
"O'n i’n mynd i ddihuno lan yn menopausal, 'di cael llawdriniaeth anghywir a heb ofaris fi. O'n i’n really becso drwy’r amser so pan ddihunes i lan o'n i'n lwcus eu bod nhw wedi cadw nhw mewn."
Yn Sir Gogledd Efrog y cafodd hi'r driniaeth honno ac yn ôl Ymddiriedolaeth Iechyd Harrogate mae cleifion yn cael gwybod am y peryglon posibl cyn cael llawdriniaeth o unrhyw fath.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i wella gofal iechyd menywod drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Symudodd Sophie i Lundain yn fuan wedyn gan ddechrau ar y broses o rewi ei hwyau.
"Es i i ysbyty o'n i 'di cael triniaeth ynddo o'r blaen achos o'n i'n trysto nhw a wedon nhw ddylset ti 'di dod yma flynyddoedd yn ôl achos y llawdriniaeth o'n i wedi cael ar ofaris fi.
"Dechreuon ni’r broses ryw chwe wthnos mewn o gael y sgwrs – 'oedd e i gyd wedi dechre yn really glou."
Mwy yn rhewi wyau
Yn ôl yr Awdurdod Ffrwythloni ac Emrbyoleg fe gynyddodd yr arfer o rewi wyau yng Nghymru 300% rhwng 2020 a 2021.
Yn ogystal â rhesymau iechyd mae menywod yn rhewi wyau er mwyn cael plant yn hwyrach.
Fel arfer, dydy rhewi wyau ddim ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd oni bai eich bod chi'n cael triniaeth allai effeithio ar eich ffrwythlondeb - er enghraifft triniaeth ar gyfer canser.
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
Fe gostiodd y broses o rewi wyau tua £15,000 i Sophie. Mae hi'n teimlo y dylai fod yn haws i'w gael drwy'r GIG.
"Oedd e’n broses really anodd just i feddwl mynd trwyddo fe achos oedd gymaint o stress, beth os nad yw hwn yn gweithio? Fi’n hala’r holl arian 'ma ar rewi wyau fi achos dyw e ddim ar yr NHS ar y foment.
"Dwi’n gobeithio bod mwy o ymwybyddiaeth am endometriosis yn mynd i newid hwnna, ond ar y pryd pan ges i e 'di neud blwyddyn dwetha’, doedd dim unrhyw beth fel 'na ar gael."
Beth sydd bwysicaf?
Fel ym mhob gwasanaeth iechyd ar draws y byd mae'n rhaid blaenoriaethu, meddai'r Athro Glyn Elwyn o Sefydliad Dartmouth.
"Mae unrhyw wasanaeth yn gorfod pwyso a mesur ble i roi adnoddau. Ddylen ni roi arian i'r babanod newydd anedig? Ddylen ni roi'r arian i edrych ar ôl henoed efo dementia neu ddylen i roi blaenoriaeth i bobl sydd eisiau penglin newydd neu am fynd nôl i'r gwaith gyda chlun newydd?
"Mae'n gwestiwn anodd iawn a dwi ddim yn credu bod unrhyw wasanaeth iechyd yn egluro sut maen nhw'n dod i'r penderfyniad.
"Y cwestiwn ethegol, moesol yw pwy sy'n cael blaenoriaeth? Be' mae cymdeithas yn meddwl sydd bwysicaf a dwi ddim yn meddwl bod yna ateb hawdd i hynny o gwbl."
Mae Sophie yn trafod ei phrofiadau ar ei chyfri' Instagram er mwyn tynnu sylw at faterion ffrwythlondeb.
Mae'r Rhwydwaith Ffrwythlondeb yn cytuno bod angen gwneud hynny. Maen nhw'n teithio o gwmpas colegau a phrifysgolion yn rhannu gwybodaeth.
"Mae pobl yn dweud, dydyn ni ddim yn dysgu digon am ffrwythlondeb yn yr ysgol," meddai Emma Rees o'r rhwydwaith.
"Tasen ni'n gw'bod bod heintiau rhyw yn gallu cael effaith ar ffrwythlondeb bydden i'n meddwl ddwywaith am bethau fel hynny."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd menywod yng Nghymru drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ym mhob cam o'u triniaeth.
"Ry ni'n deall y gall endometriosis effeithio ar ffrwythlondeb a'r effaith y gall hyn ei gael ar eu bywydau.
"Ry'n ni wedi ariannu gwefan i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr a'r gefnogaeth sydd ar gael," medd llefarydd.
Maen nhw'n ychwanegu fod dysgu am ffrwythlondeb yn orfodol yn eu cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Bydd mwy am y stori hon ar Wales Live ar BBC 1 am 22:40 nos Fercher ac yna ar iPlayer.