Endometriosis: Penodi nyrsys arbenigol ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhai o'r nyrsys endometriosis newydd gyda'r Gweinidog Iechyd, Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r nyrsys endometriosis newydd gyda'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan

Mae nyrsys arbenigol wedi eu penodi ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru mewn ymgais i wella gwasanaethau endometriosis.

Gyda'r cyflwr cronig yn effeithio ar un o bob 10 dynes, daw'r swyddi newydd yn sgil buddsoddiad gwerth £1m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod wythnos ymwybyddiaeth endometriosis, ac yn sgil dilyn cwynion fod rhai cleifion yn disgwyl hyd at naw mlynedd am ddiagnosis, cadarnhawyd fod yr holl nyrsys bellach wrth eu gwaith.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, daw'r gwellhad i'r gwasanaeth yn dilyn pryderon fod llawer o ferched wedi peidio â chael eu cymryd o ddifri.

Ymysg y pryderon oedd fod ond un canolfan arbenigol yng Nghymru gyfan, a'i bod yn cymryd hyd at dair blynedd i gael apwyntiad yn y ganolfan honno yng Nghaerdydd.

'Dioddef poenau bron bob dydd'

Dechreuodd symptomau Sarah Matthews pan yn 18 oed, ond ni dderbyniodd ddiagnosis nes ei bod hi'n 25.

"Mae'n eich effeithio pob dydd," meddai Sarah, o Gydweli, sydd bellach yn 37 ac yn gweithio fel cyfreithwraig.

Wedi blynyddoedd o wahanol dabledi atal cenhedlu a chlywed mai "ond poen mislif" oedd ganddi, mynnodd gael ei chyfeirio at gynaecolegydd.

Ffynhonnell y llun, Sarah Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sarah Matthews mae'r cyflwr yn ei heffeithio bob dydd

"Hyd yn oed os ydych chi'n dweud eich bod mewn poen, dyw e ddim fel eich bod yn cerdded gyda limpyn neu gyda braich mewn cast plastr... dyw e ddim yn debyg i afiechydon eraill," meddai.

Gyda'r chwyddo ar ei chroth yn effeithio ar ei choluddyn, mae hefyd wedi dioddef o sciatica ac wedi derbyn llawdriniaeth ddwywaith yn barod.

"Torrais fy nghalon," meddai. "Rydych yn teimlo fel hypochondriac wrth fynd yn ôl a 'mlaen o weld y meddyg... Dywedon nhw mai ond mislif trwm oedd gen i, ond o'n i'n gwybod bod hynny ddim yn normal.

"Mae yna wastad bryder o anffrwythlondeb. Pan gefais y llawdriniaeth gyntaf yn 25, dywedwyd os oeddwn i eisiau plant y dylwn eu cael cyn gynted â phosibl.

"Mae hynny'n haws dweud na gwneud os nad ydych gyda'r person iawn, neu ddim mewn perthynas.

"Pan rydych chi ar restr aros, bob mis rydych chi'n meddwl: 'Ydw i'n mynd i fod yn anffrwythlon o aros gyhyd?'."

Beth ydy endometriosis?

Disgrifiad,

Llinos Blackwell sy'n egluro sut brofiad yw byd gyda chyflwr endometriosis

Mae endometriosis yn gyflwr gynecolegol sy'n effeithio ar un o bob 10 dynes ym Mhrydain.

Dyma lle mae celloedd fel y rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff, fel yr ofarïau a'r tiwbiau Ffalopaidd.

O ganlyniad, gall achosi poen difrifol a gwaedu trwm, anffrwythlondeb a blinder cronig

Mae'n gyflwr sydd yn anodd rhoi diagnosis iddo, ac yn gallu effeithio merched o bob oed, gyda nifer yn gorfod dioddef blynyddoedd o boen cyn cael y diagnosis cywir.

Ond hyd yn oed wedyn nid oes modd gwella endometriosis, dim ond ceisio lleddfu'r symptomau.

"Gall endometriosis fod yn gyflwr cyfyngol iawn, ond gyda'r gofal iawn, gallwn wella ansawdd bywyd claf yn ddirfawr," meddai Jo Kitt, nyrs endometriosis o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

'Y gwasanaeth maen nhw'n ei haeddu'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r penodiad o nyrsys newydd yn cael ei ariannu diolch i fuddsoddiad o £1m y flwyddyn fel rhan o gynlluniau ehangach i wella gwasanaethau iechyd menywod.

Bellach yn eu swyddi, byddant nawr yn treulio amser gyda chleifion a chlinigwyr i wella gwasanaethau, tra hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i rannu arferion da a sicrhau bod gwasanaethau'n gyson ar draws Cymru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal

Hefyd bydd gwefan, Endometriosis Cymru, yn cynnwys straeon personol menywod ar draws Cymru yn ogystal ag offeryn tracio symptomau a allai gael ei ddefnyddio gan gleifion a chlinigwyr i gyflymu'r broses o gael diagnosis a thriniaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd "penodi nyrs endometriosis benodol ym mhob bwrdd iechyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflwr difrifol hwn, ledled Cymru".

"Rydw i wedi clywed straeon gofidus am fenywod sydd â'r cyflwr hwn yn cael y diagnosis anghywir, ac yn peidio â chael eu cymryd o ddifri'," meddai.

"Rwy'n benderfynol y bydd menywod Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu."

Yn croesawu'r datblygiad dywedodd Emma Cox, prif weithredwr Endometriosis UK ei bod yn "wych gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhagweithiol i wella ansawdd bywyd y rhai sydd ag endometriosis".

Pynciau cysylltiedig