Endometriosis: Menywod Cymru'n aros degawd am ddiagnosis

Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

“Does dim un diwrnod lle dwi ddim mewn unrhyw fath o boen", medd Bethan Jenkins o Aberdâr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r amser aros i gael diagnosis endometriosis wedi cynyddu i bron i 10 mlynedd, carreg filltir "ddinistriol" medd menywod sydd â'r cyflwr.

Mae bellach yn cymryd bron i flwyddyn yn hirach na chyn 2020 i gael diagnosis, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Endometriosis UK.

Maen nhw’n sefydlu grwpiau cymorth newydd dan arweiniad gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Yr amser aros yng Nghymru yw'r hiraf yn y DU, yn ôl yr ymchwil.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwybod bod "lle i wella".

'Y boen yn ddi-ddiwedd'

Fe dalodd Bethan Jenkins, 38 o Aberdâr, £15,000 am brofion preifat er mwyn cael diagnosis swyddogol.

“Does dim un diwrnod lle dwi ddim mewn unrhyw fath o boen, mae’n draining, mae’r boen yn ddi-ddiwedd... mae’n real emotional rollercoaster.”

Mae Bethan yn un o’r 1.5 miliwn o ferched ym Mhrydain sy’n byw gyda’r cyflwr.

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Bethan doedd meddygon ddim yn gwrando ar ei phryderon

“Dechreuais i’n mislif i yn 13, 14 oed. O edrych yn ôl, roedden nhw wastad yn boenus a thrwm, ond do’n i ddim yn gwbod sut oedd mislif i fod i deimlo.

“O’n i’n colli lot o ysgol bob mis achos roedd y gwaedu mor drwm a’r cramps mor ddrwg, o’n i’n ffili gadael y gwely."

Dywedodd Bethan ei bod "nôl a mlaen" yn gweld arbenigwyr y gwasanaeth iechyd am 15 mlynedd.

"Oedden nhw just yn gweud pethe fel ‘Oedd mislif i fod yn boenus’, neu ‘mae pain threshold isel ‘da ti’.”

Er iddi gael nifer o brofion dros y blynyddoedd, chafodd hi ddim diagnosis tan 2022.

“Ro’n i di cyrraedd pwynt o’n i’n dechrau amau oedd y symptomau i gyd yn fy mhen?!

"Achos bod doctor o hyd yn gweud bod dim byd yn bod, bod popeth yn normal, o’n i’n dechre meddwl bo' fi yn hypochondriac, neu ddim yn delio â phoen yn dda iawn..."

Cafodd brawf preifat yn 2022, a chadarnhad bod ganddi endometriosis cam 4.

“Mi roedd yn golygu bod darnau o endo yn tyfu yn fy ngholuddyn i, oedd yn golygu bo fi’n methu treulio fy mwyd i’n iawn; fy ofarïau wedi troi ac yn stuck i’r groth; y bowel yn stuck i’r uterus hefyd, roedd popeth ‘di sticio at ei gilydd efo’r adhesions 'ma, sy' fel gwe pry cop.”

Beth yw endometriosis?

Mae'r clefyd yn achosi meinwe, tebyg i’r hyn sydd yn leinin y groth, i dyfu mewn organau eraill o’r corff, fel yr ofarïau neu'r tiwbiau ffallopaidd.

Mae'r meinwe yn tyfu bob mis, ac yna'n torri i lawr ac yn gwaedu.

Yn wahanol i fislif, dydy’r gwaed hwn ddim yn gallu dianc - sy'n gallu arwain at chwydd a meinwe greithiol (scar tissue).

Gall achosi poen difrifol a blinder cronig, ac mae'n gallu gwneud hi’n anodd beichiogi.

Mae rhai o'r prif driniaethau ar gyfer endometriosis yn seiliedig ar hormonau, neu mae opsiynau eraill yn cynnwys llawdriniaethau i gael gwared â’r meinwe endometriosis.

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan wedi cael dwy lawdriniaeth o fewn dwy flynedd i'w gilydd

Mae astudiaeth Endometriosis UK yn dangos fod bron i hanner y merched (47%) wedi ymweld â'u meddyg teulu 10 gwaith neu fwy gyda symptomau cyn derbyn diagnosis.

Roedd 70% wedi ymweld pum gwaith neu fwy.

Roedd 78% o'r merched a gafodd ddiagnosis endometriosis yn y pendraw - i fyny o 69% yn 2020 - wedi cael gwybod gan feddygon eu bod yn gwneud "ffys am ddim byd", neu sylwadau i'r perwyl hwnnw.

Menywod yn cael eu diystyru

O fewn dwy flynedd i’w gilydd, mae Bethan wedi gorfod cael dwy lawdriniaeth i dorri’r endometriosis o’r gwreiddyn.

“Dwi’n meddwl petai’r symptomau wedi cael eu cymryd o ddifri' yn gynt, efallai byddwn i ddim yn sefyllfa dwi ynddo nawr”, meddai.

“Ges i’r llawdriniaeth gynta' ym mis Mehefin 2022 a dihunais i fel person gwbl wahanol, roedd mwy o egni 'da fi, gallu bwyta beth o’n i moen, ac oedd e’n wych.”

Daeth ei symptomau'n ôl, ac fe gafodd ei hail lawdriniaeth ym mis Hydref 2023.

“Ers y llawdriniaeth yma, fi 'di gweld rhywfaint o welliant ond fi dal yn cael eitha lot o boen, ac mae symptomau newydd yn ymddangos – poenau yn y goes, numbness, pins and needles.”

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r cyflwr wedi cael effaith, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol, ar Bethan

Mae Bethan yn teimlo bod angen gwell hyfforddiant ar feddygon teulu er mwyn helpu cleifion yn well.

“Be sy angen normaleiddio ydy meddygon teulu yn gweud ‘Sori ond dwi ddim yn gwbod, mi wnâi fwy o ymchwil a dod nôl atat ti neu dy gyfeirio di at rywun sydd yn gwbod’. "

"Does dim cywilydd iddyn nhw gyfaddef bo nhw ddim yn gwbod digon."

Mae hefyd yn teimlo bod angen gwell addysg mewn ysgolion hefyd.

“Ni’n gwbod am y gylched mislifol, ond mae angen i bobl ifanc w'bod nad ydy gwaedu trwm ofnadwy yn normal, dydy poenau difrifol sy’n dy lorio di ddim yn normal."

Mae’r cyflwr wedi cael effaith, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol, ar Bethan, ac mae’n cyfaddef iddi gael cyfnodau tywyll iawn.

“Weithiau, dwi ddim ishe codi o’r gwely, dwi’n gorfod forcio fy hun i fynd i’r gwaith. Rhai boreau, dwi’n meddwl, beth yw’r pwynt? Dwi mewn cymaint o boen, beth yw’r pwynt?

“Yn y gorffennol, ro’n i’n lot gwaeth, ro’n i’n cwestiynu fy hun o hyd, ro’n i’n mynd i le tywyll, ond ers cael diagnosis, dwi’n fwy parod i drafod yn agored, dwi ddim yn gorfod gwisgo masg rhagor.”

Sefydlu grwpiau gwirfoddol

Bydd tri grŵp gwirfoddol newydd Endometriosis UK yn cynnig help i bobl sydd â'r cyflwr yn ardal Abertawe, yng ngorllewin Cymru ac yn Wrecsam a'r cyffiniau.

Dywedodd elusen iechyd Triniaeth Deg i Ferched Cymru bod y cleifion hynny oedd â chysylltiad â nyrs endometriosis yn llawn canmoliaeth am y gofal maen nhw'n ei gynnig.

"Fodd bynnag, mae un nyrs endometriosis fesul bwrdd iechyd yn druenus o annigonol," meddai Debbie Shaffer, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil yr elusen.

"Mae rhai o'r nyrsys endometriosis wedi dweud wrthym fod ganddyn nhw dros 1,000 o gleifion ar eu rhestr ar unrhyw adeg."

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan wedi sefydlu grwp Instagram lle mae cyfle i fenywod drafod eu cyflwr a chynnig cyngor i’w gilydd

Mae Bethan yn canmol ei nyrs hi, ond dydy hi ddim wastad yn hawdd ei gweld.

“Mae’r nyrsys yn wych fel pwynt cyswllt, ond mae un fi, er enghraifft yn gorfod gweld 179 o ferched mewn pythefnos.

"Maen nhw angen mwy o nyrsys ac mae’r nyrsys hynny angen cefnogaeth, achos maen nhw’n wynebu rhwystrau hefyd.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ariannu nyrsys endometriosis penodedig o fewn pob bwrdd iechyd ar draws GIG Cymru.

"Mae adborth cleifion yn awgrymu eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, ac â dealltwriaeth well o’r cyflwr," meddai'r llefarydd.

"Ond rydyn ni'n gwybod bod lle i wella, ac rydyn ni'n gweithio gyda'r nyrsys endometriosis i nodi’r meysydd hynny sydd i'w gwella."