Matt Sherratt yn ôl fel prif hyfforddwr Cymru ar gyfer taith Japan

Bydd gan Gymru ddwy gêm yn Japan o dan Sherrat - un ar 5 Gorffennaf a'r llall wythnos yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae Matt Sherratt wedi'i benodi yn brif hyfforddwr dros dro ar dîm rygbi Cymru ar gyfer eu taith i Japan fis Gorffennaf.
Cafodd Sherratt ei benodi i'r rôl ar gyfer tair gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni - wedi i Warren Gatland adael ar ôl colli i'r Eidal.
Yn brif hyfforddwr ar Gaerdydd hefyd, bydd gan Sherratt dîm newydd o hyfforddwyr, sydd ddim yn cynnwys Jonathan Humphreys a Mike Forshaw.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, ei bod yn "ddiolchgar iawn i Matt am gytuno i gymryd yr awenau eto".

Bydd dau gyn-chwaraewr i Gymru, Adam Jones (uchod) a Gethin Jenkins, yn rhan o dîm hyfforddwyr Matt Sherrat
Bydd prif hyfforddwr Harlequins, Danny Wilson, yn ymuno gyda thîm hyfforddwyr Sherratt, a TR Thomas o Gaerloyw.
Hefyd yn eu plith bydd dau gyn-chwaraewr i Gymru, Adam Jones - sy'n un o hyfforddwyr y sgrym i Harlequins, a'r cyn-flaenwr Gethin Jenkins.
Buodd Jones a Thomas yn gweithio gyda Sherratt yn ystod gemau'r Chwe Gwlad, ac maen nhw, Wilson a Jenkins ar secondiad o'u clybiau arferol.
Chwe chwaraewr di-gap
Mae Sherratt wedi enwi chwe chwaraewr sydd heb ennill gap ar gyfer y daith i Japan, gyda'r bachwr Dewi Lake yn cael ei enwi'n gapten.
Bydd Lake yn arwain y garfan yn absenoldeb y capten arferol, Jac Morgan, fydd ar daith y Llewod yn Awstralia ynghyd â Tomos Williams.
Ymhlith yr enwau newydd mae Liam Belcher, Chris Coleman, Garyn Phillips, Keelan Giles, Reuben Morgan-Williams a Macs Page.
Yr enwau amlwg sy'n absennol ydy Dafydd Jenkins, Adam Beard, Will Rowlands, Henry Thomas, Ellis Mee, Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Nick Tompkins, James Botham ac Evan Lloyd.
Mae Beard a Rowlands yn cael gorffwys, tra nad oes esboniad am absenoldeb Tompkins, Mee, Llewellyn, Anscombe, Lloyd a Botham.
Ni fydd Jenkins a Thomas yn rhan o'r garfan oherwydd rhesymau meddygol.
Carfan Cymru
Blaenwyr: Nicky Smith, Gareth Thomas, Garyn Phillips, Keiron Assiratti, Chris Coleman, Archie Griffin, Dewi Lake (capt), Liam Belcher, Elliot Dee, Ben Carter, Teddy Williams, Freddie Thomas, James Ratti, Taine Plumtree, Aaron Wainwright, Alex Mann, Taulupe Faletau, Tommy Reffell, Josh Macleod
Olwyr: Kieran Hardy, Reuben Morgan-Williams, Rhodri Williams, Sam Costelow, Dan Edwards, Ben Thomas, Johnny Williams, Joe Roberts, Macs Page, Josh Adams, Tom Rogers, Blair Murray, Keelan Giles, Cameron Winnett.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Mai