Chwe Gwlad 2026: Cymru i ddechrau gyda thaith i Twickenham

Fe fydd Cymru'n gobeithio talu'r pwyth yn ôl i'r Saeson - ar ôl iddyn nhw ennill o 68-14 yng ngêm olaf y Chwe Gwlad eleni
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf yn dechrau gyda gêm oddi cartref yn erbyn Lloegr.
Ar ôl gorffen gyda'r llwy bren am ddwy flynedd yn olynol, fe fydd Cymru yn gobeithio troi cornel - gyda disgwyl y bydd prif hyfforddwr newydd wedi ei benodi erbyn hynny.
Wedi'r daith i Twickenham fe fydd Cymru yn croesawu Ffrainc a'r Alban cyn taith i Ddulyn i wynebu'r Gwyddelod.
Fe fydd ymgyrch Cymru yn gorffen gyda gêm gartref yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality ar 14 Mawrth.
Fe fydd y Bencampwriaeth yn dechrau ar 5 Chwefror wrth i'r deiliaid Ffrainc wynebu Iwerddon - gyda gêm yn cael ei chynnal ar nos Iau am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth.
Gemau Cymru yn llawn:
Lloegr v Cymru - Dydd Sadwrn 7 Chwefror (16:40)
Cymru v Ffrainc - Dydd Sul 15 Chwefror (15:10)
Cymru v Yr Alban - Dydd Sadwrn 21 Chwefror (16:40)
Iwerddon v Cymru - Dydd Gwener 6 Mawrth (20:10)
Cymru v Yr Eidal - Dydd Sadwrn 14 Mawrth (16:40)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Mai