URC yn cyhoeddi na fydd y rhanbarthau'n cael eu hariannu'n gyfartal

- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau dros strwythur rygbi proffesiynol Cymru am y dyfodol ar ôl i Undeb Rygbi Cymru (URC) gyhoeddi na fydd eu pedwar rhanbarth bellach yn cael eu hariannu'n gyfartal.
Gwnaeth y corff llywodraethu'r cyhoeddiad ym mysg son eu bod yn bwriadu torri tîm o'u haen broffesiynol. Nid yw URC wedi cadarnhau na gwadu os yw torri tîm yn rhan o'u cynlluniau.
Ond mae penaethiaid URC yn bwriadu gweithredu system ariannu dwy haen newydd ar ôl cyflwyno rhybudd o ddwy flynedd ar y cytundeb presennol sy'n sail i gêm broffesiynol Cymru.
Daw'r cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) hwnnw i ben yn 2027 er ei fod i fod i gael ei ddisodli gan gytundeb pum mlynedd newydd nad yw'r Gweilch na'r Scarlets wedi'i arwyddo.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd10 Mai
Roedd rhaid i bedwar rhanbarth proffesiynol Cymro arwyddo'r PRA newydd erbyn 8 Mai, ond dim ond Caerdydd (y mae URC yn eu berchen) a Dreigiau wnaeth arwyddo'r gytundeb.
Mae disgwyl i'r pedair tîm barhau i fodoli fel y maen nhw tan o leiaf Mehefin 2027 pan ddaw'r hen PRA i ben, ond bydd dyfodol y sefydliadau dan sylw.
Does dim sôn yn natganiad URC y byddan nhw'n torri rhanbarth gan leihau'r nifer i dair ochr broffesiynol.
Dywed y corff llywodraethu fod ganddyn nhw "feddwl agored i bob cynnig adeiladol a realistig ar y ffordd ymlaen."
"Rydym yn parhau i siarad gyda'r pedwar clwb am y dyfodol," meddai prif weithredwr URC, Abi Tierney.
"Rydym yn cydnabod y bydd hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac rydym wedi ymrwymo i drin yr holl glybiau, chwaraewyr a chefnogwyr â pharch a thegwch trwy gydol y broses hon.
"Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus pob clwb i rygbi Cymru a byddwn yn llunio cynllun newydd gyda budd gorau'r gêm gyfan yng Nghymru ar flaen ein meddwl."