Galw am ymgyrch genedlaethol i wella ymddygiad disgyblion

Bachgen mewn crys gwyn a throwsus du yn sefyll tu fas i ystafell ddsbarth yn edrych i lawr a'i frechiau wedi croesiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y gwaharddiadau o bum diwrnod neu lai wedi cynyddu'n sylweddol ers cyn y pandemig, meddai Estyn

  • Cyhoeddwyd

Mae angen ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo ymddygiad da mewn ysgolion, yn ôl yr arolygiaeth addysg.

Dywedodd Estyn bod ysgolion uwchradd wedi gweld ymddygiad yn gwaethygu'n gyffredinol ers y pandemig, gydag ymddygiad y disgyblion mwyaf heriol "yn gynyddol anodd i'w rheoli".

Yn ôl staff ysgol, mae rhai rhieni ar adegau yn gwrthwynebu polisïau'r ysgol "gan weithiau danseilio staff trwy esgusodi ymddygiad gwael".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n sicrhau bod "popeth posibl" yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad mewn ysgolion a cholegau.

Dywedodd staff wrth Estyn bod yna ystod o ymddygiad gwael - o siarad mewn gwersi i fygythiadau o drais yn erbyn athrawon neu ddisgyblion.

Mae ateb athrawon yn ôl neu ddangos diffyg parch, gwrthod cwblhau gwaith a pheidio â mynd i wersi yn themâu cyffredin, meddai'r adroddiad, sy'n canolbwyntio ar ymddygiad mewn ysgolion uwchradd.

Mae yna bryderon am ymddygiad gwael mewn coridorau, camddefnyddio ffônau symudol a fepio.

Yn ogystal, roedd rhai rhieni'n herio polisiau ar adegau ac "yn anghefnogol, ac weithiau'n tanseilio staff trwy esgusodi ymddygiad gwael".

"Roedd ychydig iawn o rieni'n dangos ymddygiad ymosodol tuag at arweinwyr a staff pan fynegwyd pryderon wrthynt am ymddygiad eu plentyn," meddai'r adroddiad.

'Dim canllawiau perthnasol ac ymarferol'

Mae Estyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau rheoli ymddygiad cenedlaethol oherwydd "nid oes unrhyw ganllawiau perthnasol, ymarferol a chyfredol i gefnogi ysgolion, disgyblion na'u teuluoedd i ddelio ag ymddygiad a hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol".

Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru "ddatblygu ymgyrch genedlaethol mewn partneriaeth ag ysgolion i hyrwyddo ac esbonio pwysigrwydd ymddygiad da gyda rhieni, gofalwyr a disgyblion".

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddweud ei fod yn nodi'r heriau a beth ellir ei wneud i ateb y problemau.

"Mae sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn ein lleoliadau addysgol yn hanfodol," meddai'r llefarydd.

"Byddwn yn trafod y pwyntiau hyn ymhellach yn ein huwchgynhadledd ymddygiad yn ddiweddarach y mis hwn, lle byddwn hefyd yn adlewyrchu y cyfarfod heddiw ar drais a diogelwch mewn ysgolion a cholegau."

YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd awdur yr adroddiad, Aranwen Morgans-Thomas: "Yr heriau mwyaf oedd yn dod i'r amlwg oedd disgyblion yn gwrthod mynd i wersi a dilyn trefn arferol ysgolion, defnydd anaddas o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol."

Ychwanegodd: "Oedd ysgolion yn sôn bod y pandemig wedi cael effaith gyda phlant wedi bod bant o'r ysgol am gyfnodau yn ystod y cyfnodau clo a hefyd wrth gwrs heriau cymdeithas yn gyffredinol - tlodi a heriau ni'n gweld yn ein cymdeithas ni - yn cael effaith ar rai o'r ymddygiadau.

"Ond dylid nodi hefyd bod ysgolion yn sôn bod llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda ac mai ychydig sy'n dangos yr ymddygiadau heriol yma."

'Mwy o staff sydd angen'

Dywedodd Dyfrig Rees, dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd, ei fod yn croesawu'r adroddiad.

"Fi'n credu bod 'na concern ar draws y sector am ymddygiad a dirywiad ymddygiad," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

"Ond bydde ni hefyd yn dweud fod lot fawr o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac mae lot o ysgolion hefo systemau a strategaethau sy'n golygu bod ymddygiad yn gallu bod yn dda."

Dywedodd Stuart Williams o'r undeb dysgu NEU fod canfyddiadau'r adroddiad yn cyd-fynd â be mae aelodau wedi bod yn dweud wrth yr undeb.

"Fe wnaethon ni gynnal arolwg y mis diwethaf a ddaru 87% o aelodau ddweud bod problem hefo ymddygiad a'r ffordd mae'n cael ei drin.

"Ond dwi hefyd yn cytuno hefo Dyfrig mai nifer fach o ddisgyblion sydd yn achosi'r problemau yn yr ysgol.

"Ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod digon o gyllid ar gael i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw gael darparu cymorth iechyd meddwl i blant - a hefyd darparu mwy o gyllid i ysgolion, achos ar hyn o bryd, mae ysgolion yn mynd trwy gyfnod diswyddiadau os 'di'r cyllid ddim yn ddigonol i gadw athrawon yn eu gwaith ym mis Medi.

"Felly mwy o staff sydd angen, ddim llai o staff, ac mae hynny am gael effaith ar ddarpariaeth cymorth i ddisgyblion."

Disgybl mewn ystafell ddosbarth gyda'i gefn i'r camera ac athro yn y cefndir yn edrych yn betrusgarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae polisïau ymddygiad clir sy'n cael eu gweithredu'n gyson yn hanfodol, medd arolygwyr

Yn ôl y data diweddaraf mae nifer y gwaharddiadau yn codi, gyda chynnydd arbennig i'w weld mewn gwaharddiadau o bum diwrnod neu lai - o 12,774 yn 2018-19 i 22,945 yn 2022-23.

Mae cyfradd y gwaharddiadau dair gwaith a hanner yn uwch i ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim o'i gymharu â'u cyd-ddisgyblion, meddai'r adroddiad, a'r gyfradd hefyd yn uwch i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

"Mae'r cyfraddau gwaharddiadau hyn yn peri pryder sylweddol ac yn rhoi awgrym i ni o nifer gynyddol y disgyblion sy'n dangos ymddygiad eithriadol o heriol a chymhleth", meddai'r adroddiad.

Dywedodd arolygwyr bod gan ysgolion sydd orau am hyrwyddo ymddygiad da ddisgwyliadau uchel, ffocws cryf ar les a pholisïau ymddygiad effeithiol sy'n cael eu gweithredu mewn modd cyson.

Ond dywedon nhw ei bod hi'n anodd deall maint y broblem oherwydd does na ddim system genedlaethol i gasglu data am achosion o ymddygiad gwael.

Cefnogaeth yn 'annigonol'

Dywedodd yr adroddiad fod y rhan fwyaf o arweinwyr ysgol yn teimlo bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn "annigonol".

Mae llai o gyllid, diffyg cefnogaeth arbenigol a thoriadau staff hefyd yn rhwystro cynnydd wrth fynd i'r afael â heriau, yn ôl penaethiaid.

Roedd y 1,700 o ymatebion i arolwg disgyblion gan Estyn yn awgrymu bod gan fyfyrwyr farn mwy positif nag athrawon am ymddygiad mewn gwersi, ond dywedodd llawer fod ymddygiad yn gwella pan oedd athrawon yn eu parchu a'u trin yn deg.

Dywedodd y prif arolygydd Owen Evans: "Gall ymddygiad disgyblion fod yn heriol ac nid yw ymddygiad cadarnhaol yn digwydd ar hap – mae o ganlyniad i arweinyddiaeth gref a thosturiol ynghyd â rheoli ymddygiad clir a chyson, hyfforddiant staff cyson ac mae'n cynnwys cefnogaeth cymuned yr ysgol gyfan."

"Mae ein hadroddiad yn dangos bod ysgolion sy'n blaenoriaethu lles, yn gosod disgwyliadau uchel, ac yn meithrin perthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth â theuluoedd yn fwy tebygol o lwyddo i greu amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol," ychwanegodd.

Mae adroddiad Estyn yn dilyn adroddiad ar golegau addysg bellach ddaeth i gasgliad tebyg bod ymddygiad wedi dirywio.

Pynciau cysylltiedig