Beth yw rôl deallusrwydd artiffisial yn nyfodol y Gymraeg?

Logo OpenAI ar ffônFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu partneriaeth newydd â chwmni OpenAI

  • Cyhoeddwyd

Mae yna le i groesawu a chwestiynu camau i wella perthynas y Gymraeg â dealltwriaeth artiffisial, yn ôl arbenigwyr.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth newydd gyda chwmni OpenAI ddydd Mawrth, sef y cwmni y tu ôl i ChatGPT.

Y bwriad ydy gwella sut mae technoleg AI yn gweithio yn y Gymraeg trwy greu archif data agored.

Dywedodd arbenigwyr technolegau iaith fod AI yn rhan bwysig o ddyfodol yr iaith, ond bod yn rhaid datblygu'r dechnoleg mewn modd cyfrifol.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

“Beth fyddwn ni’n cael ‘nôl fel cenedl? Fel siaradwyr Cymraeg?” gofynnodd Dr Neil Mac Parthalain

Yn ôl Dr Neil Mac Parthalain, sy’n uwch ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, “mae unrhyw beth fydd yn hyrwyddo’r iaith yn beth da”.

Gall datblygu defnydd AI o’r Gymraeg “roi arf arall i bobl sy’ wirioneddol moyn dysgu,” meddai, fel siarad â sgwrsfot er mwyn ymarfer yr iaith.

Ar y llaw arall, rhaid osgoi bod AI yn troi’r iaith i “ryw fath o gragen,” gyda phobl yn troi at dechnoleg i ddefnyddio’r Gymraeg yn hytrach na’i dysgu.

Rhaid hefyd sicrhau bod Cymru yn elwa o bartneriaeth y llywodraeth ag OpenAI, meddai.

“Er bod enw OpenAI yn gwneud iddyn nhw swnio fel cwmni dielw, cwmni masnachol ydyn nhw – ac yn sydyn iawn mae ganddyn nhw ddata o Gymru.

“Beth fyddwn ni’n cael ‘nôl fel cenedl? Fel siaradwyr Cymraeg?”

Disgrifiad o’r llun,

Gruffudd Prys ydy pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr

“Mae gan AI ran bwysig i’w chwarae yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg,” medd Gruffudd Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

“Er bod safon Cymraeg y dechnoleg eisoes yn syndod o dda, mae’n bwysig iddo fod mor dda yn y Gymraeg ag y mae o yn y Saesneg."

Ychwanegodd bod angen i “gyfoeth diwylliannol y Gymraeg” fod ar gael er mwyn hyfforddi modelau AI sy’n fwy cyfoethog eu gwybodaeth am Gymru.

“Yr her yw sicrhau bod hynny’n digwydd mewn ffordd briodol sy’n parchu perchnogion ac arianwyr gwreiddiol y deunyddiau hynny.”

Rhaid bod yn ‘ofalus a chyfrifol’

Cytunodd Cymdeithas yr Iaith fod gwella perthynas y Gymraeg gyda thechnoleg a sicrhau bod yr iaith yn berthnasol yn y byd digidol yn “hanfodol”, ar yr amod ei fod yn digwydd mewn ffordd “ofalus a chyfrifol”.

Fe allai'r bartneriaeth gyfrannu'n sylweddol at "brif-ffrydio'r iaith yn ddigidol" a chreu gwasanaethau newydd i bobl eu defnyddio bob dydd, medd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol y gymdeithas.

"Mae pryderon gennym dros fygythiad deallusrwydd artiffisial i ddyfodol swyddi mewn ystod o feysydd," meddai.

"Ni ddylai awdurdodau cyhoeddus na chwmnïau preifat ddibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a’u hisraddio, ac mae cyfrifoldeb gan y llywodraeth i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

OpenAI yw'r cwmni y tu ôl i sgwrsfot ChatGPT

Fe wnaeth Ysgrifennydd y Gymraeg Jeremy Miles gyhoeddi’r bartneriaeth ddydd Mawrth.

"Mae pob un ohonom yn defnyddio technoleg mewn un ffordd neu’i gilydd, ac yn gynyddol, rydyn ni’n gweld AI yn cael ei ddefnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen i weld sut bydd y bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI yn arwain at wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg."

Ychwanegodd Anna Makanju, is-lywydd materion rhyngwladol OpenAI: "Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bartner gwych wrth greu set ddata agored ar gyfer hyfforddi modelau iaith.

“Yn OpenAI, rydyn ni am i'n modelau ddeall cymaint o ieithoedd a diwylliannau â phosib, fel bod modd i gynifer o bobl â phosib eu defnyddio."