Teyrngedau i fam 'gariadus' fu farw yn Ynys Môn

Dywedodd ei theulu fod Emma Williams yn "meddwl y byd o'i mab, Tommy"Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei theulu fod Emma Williams yn "meddwl y byd o'i mab, Tommy"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes o Ynys Môn a fu farw yn gynharach yn y mis wedi talu teyrnged iddi.

Bu farw Emma Williams, 47, yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yng Ngwalchmai ar 6 Chwefror.

Cafodd dyn 54 oed ei arestio ar amheuaeth o glwyfo mewn cysylltiad â'r digwyddiad, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu fod Emma Williams yn "berson byrlymus, teimladwy a chariadus", a'i bod yn "meddwl y byd o'i mab, Tommy".

"I Tommy, doedd hi ddim ond yn fam, ond yn ffrind gorau iddo," meddai'r datganiad.

"Roedd Emma yn caru teithio, a doedd hi byth ofn trio pethau newydd.

"Fe dreuliodd hi nifer o wyliau yn Dubai, yn creu atgofion gwych gyda'i mab."

'Ffrind ffyddlon'

Dywedodd ei brawd, Chris, fod teulu yn bwysig i Emma, ac y bydd o'n "methu ei gwên, ei chwerthin, ei hysbryd gwyllt a'i hegni heintus".

Cafodd Emma ei disgrifio gan ei rhieni fel "ffrind ffyddlon i nifer", a bod "ei synnwyr digrifwch ffraeth yn dod â chwerthin mawr, lle bynnag yr oedd hi".

"Er ein bod wedi cael ein dinistrio'n llwyr, ac yn dal yn trio dod i delerau efo colled sydyn ein merch hardd, hoffem estyn ein diolch i'n annwyl deulu a ffrindiau, a'r gymuned, am eu holl feddyliau hyfryd a chydymdeimladau o'r galon - sydd wedi bod yn ffynhonnell o gysur i ni gyd."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod swyddogion arbenigol yn cefnogi'r teulu, a bod yr ymchwiliadau i'w marwolaeth yn parhau.

Pynciau cysylltiedig