Y Gymraes wrth galon hwyl a miri Gŵyl Sydney

- Cyhoeddwyd
Bob mis Ionawr mae Sydney yn ffrwydro, gyda pherfformiadau celfyddydol o bob math yn cael eu cynnal ledled y ddinas fel rhan o Sydney Festival, ac un sydd yn ‘gwireddu breuddwyd’ o gael gweithio gyda’r ŵyl enfawr yma yw’r Gymraes, Nia Jones.
Haul. Awstralia. Y celfyddydau... rhai o hoff bethau Nia Jones, sydd wedi eu cyfuno yn ei swydd ddelfrydol fel Swyddog y Wasg i'r Sydney Festival.
Mae Nia, sy’n wreiddiol o Aberteifi, yn byw draw yn Awstralia ers diwedd 2021, ac yn byw’r freuddwyd wrth gael bod yng nghanol holl hwyl a miri’r ŵyl bob blwyddyn, meddai:
"O’n i wastad eisiau dod nôl i Awstralia – des i fel backpacker fel sawl un arall nôl yn 2002. So pan ddaeth COVID, ac o’dd pob un yn cael cyfle i edrych nôl ac amser i feddwl beth oedden nhw eisiau, ‘nes i benderfynu follow the dream, a dyma fi!

Mae 'na olygfeydd diddorol ar bob cornel yn Sydney ym mis Ionawr
"O’n i wedi ceisio am y swydd yma tua tair gwaith pan o’n i nôl yng Nghaerdydd. Roedd e’n gyfuniad o swydd fy mreuddwydion, yn gweithio yn y celfyddydau a chyfathrebu, ac mewn lle o’n i mor angerddol am fyw yno..."
Ond 'Na' oedd hi bob tro, meddai, a hithau dal yn byw yn y Deyrnas Unedig, ond pan symudodd draw i Awstralia, a gweld bod y swydd yn cael ei hysbysebu eto, doedd ganddi ddim byd i'w golli, meddai:
"Ges i ddau gyfweliad a chael y swydd, a dwi ffili bod mwy hapus – mae e’n amazing."

Yr opera, Il Tabaro, yn cael ei berfformio ar long yn yr ŵyl eleni
O seler y dafarn i'r traeth
Felly beth yw’r ŵyl ddiwylliannol a chelfyddydol yma, sydd â pherfformiadau i'w gweld ym mhob twll a chornel o'r ddinas am bron i fis cyfan bob blwyddyn, a hynny ers 1977?
"Ma' fe jest yn ddigwyddiad hollol eiconig ar gyfer Sydneysiders – y bobl sy’n byw yma," eglura Nia.
"Mae pethau i’r teulu, i’r plant, opera, dawns, syrcas, visual arts... rhywbeth i bawb.
"Mae e yn Greater Sydney – y ddinas i gyd, dim jest yng nghanol y ddinas – ac mae e’n digwydd bobman. ‘Dyw e ddim jest yn y theatr, mae e lawr stâr tafarn neu working men’s club, neu mas y bac o le members’ only.
"Mae perfformiad gyda ni ar Bondi Beach – ‘se ti byth yn meddwl bo’ ti’n gweld perfformiad celfyddydol ar Bondi Beach.”

Perfformiad grymus o Living Sculptures: How the Birds got their Colours... ar y traeth
Rhan hollbwysig o’r ŵyl, eglurai Nia, yw’r cysylltiad agos â phobl gynhenid y wlad – rhywbeth sydd yn dod â balchder iddi.
"Mae gennyn ni raglen cryf gyda’r First Nations, ac mae hwnna’n bwysig i ni. Nhw oedd ‘ma gynta', a mae’n rili pwysig ein bod ni’n rhoi platfform i’r bobl yna i ddweud eu straeon eu hunain, i’n dysgu ni am eu treftadaeth nhw, a’u rhannu gyda’r genhedlaeth nesa’.
"Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed i’r gymuned gael y cyfle i gael bod ar lwyfan i adrodd eu straeon.”

Cyfle i fwynhau digon o fwyd a diod rhwng perfformiadau
Y gwych, gwallgo’ a’r annisgwyl
Arwyddair yr ŵyl yw ‘See your city differently’, ac mae’r trefnwyr yn ymdrechu i lenwi amserlen yr ŵyl ag eitemau gwahanol i'r disgwyl a rhai sydd ar brydiau am godi ael.
Un o’r sioeau agoriadol eleni a greodd gryn argraff ar y dyrfa, eglurodd Nia, oedd grŵp o Frasil, oedd yn dawnsio gyda blancedi o wahanol gymunedau ledled eu gwlad... ond a oedd yn gwneud hynny yn hollol noeth.
"O’dd e bach yn sioc am y 5-10 munud cyntaf, ond achos ei fod e mor brydferth, ti’n anghofio bod nhw’n noeth!" meddai.
Sioe arall boblogaidd oedd y sioe wreiddiol Big Name No Blankets am ddylanwad yr hen grŵp gerddoriaeth cynhenid, Warumpi Band.
"O’dd e mewn theatr, o’dd pawb yn eistedd i lawr yn reit sidêt, ac unwaith ‘nathon nhw ddechrau canu, o'dd pawb ar eu traed, rocking out – o’dd e fel bod mewn gig roc!"

Sêr y sioe Big Name No Blankets yn mwynhau gymaint â'r gynulleidfa ddaeth i'w gwylio
Arbrofi a mynd amdani
Er ei bod hi’n rhan o’r holl waith trefnu, ac yn gwybod beth sydd o’i blaen, mae Nia hyd yn oed yn cael siom ar yr ochr orau gyda sioeau na fyddai wedi ystyried mynd iddyn nhw fel arall, meddai.
"'Nes i eistedd mewn ar rihyrsal menyw yn chwarae’r recorder. O’n i’n jocan bo' ni gyd wedi dysgu’r recorder yn yr ysgol ac erioed wedi ei gyffwrdd e ers ‘ny, ond mae’r menyw hyn yn gwneud bywoliaeth o drafeili’r byd, yn bod yn world class recorder player. 'Nes i watshad hi am ddwyawr a meddwl ‘waw’! Ond bydden i byth wedi meddwl prynu tocyn i hwnna.
"Ac roedd hanner chwaer Norah Jones, Anoushka Shankar, yn gwneud sioe yn y Sydney Opera House wythnos diwetha. ‘Nes i ofyn i fi’n hun, ydw i eisiau gwylio rhywun yn chwarae’r sitar am awr a hanner...? Ond give it a go, a cafodd hi dri standing ovation ac adolygiadau anhygoel... pam o’n i’n ystyried peidio dod?!

Tŷ Opera Sydney yn orlawn a phawb yn gwrando'n astud ar Anoushka Shankar yn canu'r sitar
"Mae’r ŵyl yn arbrofol ond maen nhw’n gwybod pwy ydi’r gynulleidfa draddodiadol, felly ni’n gwneud yr opera, y sioeau cerdd... Ond mae ‘na lot sy’n hoffi pethau bach yn wahanol, ac os ti’n mynd amdani, ti am ffeindio’r hidden gem ‘na. Dwi’n teimlo bo’ fi ‘di gweld tri hidden gem yn barod eleni!"
Nôl i Gymru?
Wrth gwrs, buan y daw mis Chwefror, ac felly'r ŵyl i ben am eleni, a bywyd 'go iawn' yn dychwelyd. Ond, mae bywyd go iawn Nia yn edrych yn dra gwahanol i'r bywyd oedd ganddi nôl adref yng Nghymru, felly mae hi awydd aros draw yn Sydney am ychydig bach hirach, meddai...
"Mae’r swyddfa ar yr harbwr a dwi’n edrych mas ar y bont a’r Tŷ Opera bob dydd. Dydi gweithio’n hwyr yn y nos ddim yn anodd, achos ti wastad yn y theatr neu'n gweld rhyw fath o sioe.

Mae Nia yn cael modd i fyw yn gweithio i'r ŵyl draw yn Awstralia
"Mae nghalon i wastad yng Nghymru, ond dwi ddim yn hiraethu am y wlad.
"Pan dwi’n siarad gyda'r teulu gartref nawr, a mae’r iâ ar y car, mae’n dywyll am 5pm... a fi'n cyfadde' ei bod hi’n 32 gradd a mod i’n mynd i’r traeth!
"Mae gen i fisa am cwpl o flynydde eto... s'dim hast arna i fynd nôl i Gymru!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020