Y seren drag The Vivienne wedi marw ar ôl cymryd cetamin, meddai'r teulu

Roedd James Lee Williams, sy'n wreiddiol o Fae Colwyn, yn perfformio o dan yr enw The Vivienne
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r seren drag James Lee Williams o ataliad ar y galon a gafodd ei achosi gan effeithiau o gymryd cetamin, meddai eu teulu.
Cafwyd hyd i'r perfformiwr 32 oed, sy'n wreiddiol o Fae Colwyn, yn farw mewn eiddo ger Caer ym mis Ionawr.
Roedden nhw'n perfformio o dan yr enw The Vivienne, gan ennill y gyfres gyntaf o RuPaul's Drag Race UK yn 2019.
Fe ddewisodd Williams - a aeth i Ysgol Rydal Penrhos ym Mae Colwyn - yr enw drag oherwydd hoffter o wisgo dillad Vivienne Westwood.
Dywedodd eu chwaer, Chanel Williams, y byddai'r teulu yn gweithio gydag elusen cam-drin sylweddau i godi ymwybyddiaeth o beryglon cetamin.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer nad oes amgylchiadau amheus o amgylch y farwolaeth.
Mae disgwyl cwest i'r farwolaeth gael ei gynnal ym mis Mehefin.
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
Bu enwogion gan gynnwys Ian 'H' Watkins o Steps, yn ogystal â nifer o sêr drag yn angladd Williams ym Modelwyddan, Sir Ddinbych ddiwedd Ionawr.
Yn ôl Simon Jones, rheolwr a ffrind agos i Williams, roedd y teulu'n teimlo ei bod hi'n bwysig rhannu amgylchiadau'r farwolaeth.
Cafodd eu canmol am godi ymwybyddiaeth o gam-drin sylweddau tra'n cystadlu yn y gyfres RuPaul's Drag Race.
Mae eu teulu bellach yn gobeithio parhau â'r gwaith drwy gyd-weithio gyda'r elusen cam-drin sylweddau Adferiad.
Wrth siarad ar ran y teulu, dywedodd Ms Williams: "Mae cetamin yn gyffur hynod beryglus sy'n dod yn fwy a mwy cyffredin yn y DU.
"Os gallwn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon y cyffur hwn a helpu pobl a allai fod yn delio â dibyniaeth cetamin yna bydd rhywbeth cadarnhaol yn dod o'r drasiedi hon."