Canfod corff dyn oedd ar goll yn afon Wysg
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn 69 oed wedi'i ddarganfod yn afon Wysg wedi iddo fynd ar goll yn yr ardal.
Dywedodd Heddlu Gwent iddyn nhw ganfod corff Frank Bayley yn y dŵr ger Heol Corporation, Casnewydd, fel rhan o'u hymchwiliad i ddiflaniad y dyn.
Cafodd Mr Bayley ei weld ddiwethaf ar Heol Coporation tua 14:20 ddydd Mawrth, Ionawr 21.
Mae'r teulu wedi cael gwybod ac wedi adnabod y corff yn ffurfiol.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.