Seiclwr o Gymru am 'wneud y mwyaf o bob cyfle' yn dilyn cyfergyd

- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr proffesiynol o Bontypridd, Rhys Britton yn dweud ei fod yn benderfynol o "wneud y mwyaf o bob cyfle" ar ôl iddo golli bron i flwyddyn o'i yrfa yn dilyn cyfergyd.
"Nes i gael damwain ym mis Ebrill 2023," meddai, "y tro nesaf i fi gystadlu wedyn oedd Ionawr 2024... felly roedd hwnna yn gyfnod hir i fi."
"Ro'n i'n cystadlu ar yr hewl, ond doedd y ffitrwydd ddim yna, na'r hyder. I fod yn onest, ro'n i ofn cael damwain eto, felly roedd e wedi cymryd tipyn o amser i fi ddod dros hynny.
"Fe gymerodd hi bron i flwyddyn i fi ddod 'nôl at y lefel ffitrwydd ro'n i cyn y ddamwain."

Britton (ail o'r cwith) yn cystadlu yn Awstralia ym mis Chwefror y llynedd
Mae'r Cymro 25 oed wrthi'n cystadlu gyda Thîm Seiclo Prydain ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewropeaidd yng Ngwlad Belg.
Ar ôl methu allan ar gyfle i fod yn rhan o Gemau Olympaidd Paris y llynedd, dywedodd ei fod yn benderfynol o greu argraff fel rhan o dîm dynion y ras ymlid (team pursuit).
Cipiodd ei dîm y fedal arian yn y gystadleuaeth nos Iau.
"Ro'dd hi'n wych gweld y bois yn ennill medal arian [ym Mharis], ond roedd hi'n gyfnod digon anodd i fi," meddai.
"Er hynny, fe wnes i fynd i gystadlu yn Japan ac yna yn China ym mis Medi. Ro'n i'n brysur iawn."
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd9 Medi 2024
Ychwanegodd Britton fod cynnal yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi helpu iddo ddelio gyda'r siom.
"Dyw'r Eisteddfod ddim ym Mhontypridd yn aml. Roedd e'n hwyl mynd yno i ddangos y traddodiadau Cymreig i fy nghariad, Rachael, sy'n dod o Iwerddon.
"Fe wnes i allu mynd i gefnogi fy nai Ted a'i ysgol yn canu ac roedd hynny'n hyfryd. Doedd Rachael ddim cweit yn deall popeth, ond roedd e'n braf mynd â hi yna."

Mae Britton yn anelu am le ar dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Los Angeles yn 2028
Yn feiciwr talentog, cafodd Britton ei gynnwys yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn 2018 ag yntau ond yn 18 oed ar y pryd.
Roedd yn rhan o'r tîm orffennodd y ras ymlid yn bedwerydd, gan hefyd helpu ei gyd-feiciwr Jon Mould i gipio'r arian yn y ras ar yr hewl.
Enillodd yr efydd yn y ras scratch i dîm Prydain yn 2021, cyn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad a'r Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2022.
Roedd ei yrfa ar y trywydd cywir. Yna, fe ddigwyddodd y ddamwain.

Enillodd Britton y fedal efydd yn y ras scratch i dîm Prydain ym Mhencampwriaethau'r byd yn 2021
"Dydych chi ddim yn gwybod pa mor ffodus ydych chi nes i rywbeth gael ei dynnu oddi wrthoch chi," meddai.
"Pan ges i'r ddamwain, ac yna wrth geisio adeiladu fy ffitrwydd, ro'n i'n gweld eisiau cystadlu, ac yn gweld eisiau'r pwysau o gystadlu.
"Dwi'n ffodus, ac ambell waith mae gwerth i ni gael ein hatgoffa o hynny a pheidio cymryd pethau yn ganiataol."
Fe fydd Britton, sy'n dweud ei fod yn mwynhau ei seiclo gymaint yn fwy erbyn hyn, yn troi ei olwg tuag at adeiladu ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2026, gyda'r gobaith, mewn ychydig dros dair blynedd, i gystadlu'n y Gemau Olympaidd yn Los Angeles yn 2028.