Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2024
- Cyhoeddwyd
Y seiclwr trac Emma Finucane yw enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru - a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Ar ôl cystadlu am y tro cyntaf erioed yn y Gemau Olympaidd eleni, fe adawodd y seiclwr 21 oed o Gaerfyrddin Paris gyda thair medal.
Hi yw'r Gymraes gyntaf erioed i ennill tair medal mewn un gemau, a'r fenyw gyntaf o Brydain i wneud hynny ers Mary Rand yn 1964.
Enillodd fedal aur yn y ras wib i dimau, gan dorri record byd, a dwy fedal efydd - yng nghystadleuaeth y Keirin ac yn y ras wib unigol.
Merched pêl-droed Cymru enillodd wobr Tîm y Flwyddyn ar ôl creu hanes ddechrau Rhagfyr trwy gyrraedd un o brif gystadlaethau'r gamp am y tro cyntaf.
Bydd carfan Rhian Wilkinson yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yng ngemau grŵp Euro 2025 yn Y Swistir ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Emma Finucane ei bod "methu credu'r peth" pan glywodd ei bod wedi ennill y wobr personoliaeth chwaraeon eto eleni.
Roedd ennill y llynedd, meddai, "yn orchest anferthol i mi... rwy'n cofio edrych ar y tlws y llynedd [ac] yn syfrdanu o weld yr enwau wrth fy enw i.
"Ac yna i'w ennill y tro nesa'... mae'n wallgof ac mae'n gymaint o fraint i gael cydnabyddiaeth Cymru gyfan.
"Mae'n gymaint o fraint i fod yn athletwr ac yn seiclwr Cymreig... rwy' mor lwcus i ennill y wobr yma. Diolch."
Mae hi'n efelychu camp seiclwr llwyddiannus arall o Gymru, Geraint Thomas, sydd hefyd wedi ennill y wobr ddwywaith.
Dywedodd mai'r wythnos yn y Gemau Olympaidd "oedd wythos orau fy mywyd... roedd yn heriol, fe wnes i herio fy hun yn feddyliol ac yn gorfforol.
"Dyna'r peth anoddaf i mi orfod ei wneud erioed, ond i adael gydag aur a dwy efydd, allwn i heb fod wedi gallu gwneud mwy."
Fe adeiladodd ar y llwyddiant yna ym mis Hydref pan enillodd, am yr ail flwyddyn yn olynol, y ras wib unigol ym Mhencampwriaeth Trac y Byd.
Canmol 'cysondeb'
Cafodd y gwobrau eleni eu dyfarnu gan banel o arbenigwyr, dan arweiniad y cadeirydd Y Farwnes Tanni Grey-Thompson.
Y beirniaid eraill oedd cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd Cymru, Nia Jones, Owen Lewis o Chwaraeon Cymru, Deon Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Met Caerdydd, yr Athro Katie Thirlaway, a chyfarwyddwr gweithredol rygbi Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker.
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod 2024 "wedi bod yn flwyddyn ragorol i chwaraeon Cymru" a bod "lefel aruthrol y talent ac ymroddiad" gymaint o athletwyr wedi gwneud tasg y beirniaid yn un "anodd eithriadol".
Roedd yr enwau eraill a gafodd eu hystyried am y wobr yn cynnwys:
Y pêl-droediwr Jess Fishlock;
Y taflwr maen Paralympaidd Sabrina Fortune;
Y bocsiwr Lauren Price;
Y canŵydd Paralympaidd Laura Sugar;
Y seiclwr Elinor Barker;
Y nofiwr Matt Richards;
Y seiclwr Paralympaidd James Ball;
Yr athletwr taekwondo Paralympaidd Matt Bush;
Y rhwyfwr Paralympaidd Ben Pritchard;
a'r saethwr Paralympaidd Jodie Grinham.
Wrth wobrwyo Emma Finucane, dywedodd y Farwnes Grey-Thompson eu bod yn cydnabod "perfformiad rhagorol ym Mharis" a'i "chysondeb ar draws pob cystadleuaeth eleni".