Arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth sydyn yn Ynys-hir

Ffordd Graig
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi cael eu gadael y tu allan i'r eiddo ar Ffordd Graig

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth sydyn dyn 36 oed yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Graig ym mhentref Ynys-hir toc cyn 13:00 ddydd Iau.

Dywedodd swyddogion fod Christean Dean wedi marw yn yr eiddo, a'u bod yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth.

Mae dyn 34 oed o Ynys-hir wedi cael ei arestio, ond dyw'r heddlu heb rannu unrhyw fanylion eraill ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig