Ap BBC Sounds - Cerddoriaeth, radio a phodlediadau Cymraeg yn eich poced

- Cyhoeddwyd
Lawrlwythwch ap BBC Sounds er mwyn cael dewis eang o gerddoriaeth, radio a phodlediadau yn y Gymraeg yn eich poced.
Mae'n bosib gwrando yn fyw i orsafoedd BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ble bynnag yr ewch chi, neu wrando i'ch hoff raglenni ar alw pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.
Cewch restrau chwarae, dramâu, cwisys, rhaglenni dogfen, y newyddion diweddaraf a llawer mwy yn syth i'ch dyfais symudol.
Cliciwch yma, dolen allanol i lawrlwytho ap BBC Sounds o Google Play ar gyfer dyfeisiau Android.
Cliciwch yma, dolen allanol i lawrlwytho ap BBC Sounds o App Store ar gyfer iPhone neu iPad.

Os ydych yn gweld y dudalen yma ar gyfrifiadur, defnyddiwch eich dyfais symudol i lawrlwytho'r ap gyda'r codau QR yma
Nid yw'r BBC yn codi ffi i weld cynnwys ar ddyfeisiau symudol ond yn ddibynnol ar y math o gytundeb sydd gennych, efallai y bydd cost am ddefnyddio'r we.
Os nad ydych chi'n siŵr am y costau posib hyn, gofynnwch i'ch darparwr rhwydwaith. Efallai y bydd rhai costau wedi'u cynnwys yn eich cynllun cyfredol, neu bod modd i chi ddewis pecyn data sy'n cynnig gostyngiadau am ddefnyddio'r we.