Cymro wedi marw ar ôl cael ei daro gyda photel yn Prague
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi marw ar ôl cael ei daro ar ei ben gyda photel tra ar wyliau stag yn y Weriniaeth Tsiec.
Bu farw David 'Dai' Richards, 31 oed o Aberpennar, ar ôl digwyddiad yn ninas Prague nos Wener.
Dywedodd yr heddlu yno fod dyn 26 oed wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae Clwb Pêl-droed Abercynon wedi rhoi teyrnged i Mr Richards gan ddweud fod "y byd wedi colli dyn da, tad, mab a brawd".
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU: "Rydym yn cefnogi teulu dinesydd Prydeinig sydd wedi marw yn Tsiecia."
'Ergyd mor gryf'
Yn ôl datganiad sy'n dyfynnu Jan Danek o Heddlu'r Weriniaeth Tsiec, roedd y digwyddiad yn ymwneud â dau grŵp o dwristiaid.
"Ar y dechrau, roedd popeth yn dawel ac roedd y twristiaid yn siarad yn normal," meddai.
"Wedyn roedd ffrae rhyngddynt ac fe darodd un ohonynt y llall ar ei ben gyda photel o fodca.
"Roedd yr ergyd mor gryf nes i'r dioddefwr syrthio i'r llawr ar unwaith ac yn anffodus bu farw yn yr ysbyty."
Ychwanegodd eu bod wedi arestio dyn 26 oed ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac ymddygiad afreolus.
Fe allai wynebu hyd at 16 mlynedd o garchar, ychwanegodd.
'Wedi ein llorio gan y golled'
Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd Clwb Pêl-droed Abercynon eu bod yn "anfon eu cydymdeimladau dwysaf i deulu'r Richards, yn enwedig Jola, ei phlant a'n cyd-chwaraewr Matthew".
"Mae'r byd wedi colli dyn da, tad, mab a brawd," meddai.
"Mae hyn yn golled i bob un ohonom, ond y galar a’r tristwch y mae’n rhaid eich bod chi fel teulu yn ei deimlo yw’r dyfnaf a’r mwyaf teimladwy a phersonol.
"Fel arwydd o barch i bawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, cafodd ein gêm ddoe ei gohirio.
"Cyffyrddodd Dai â bywydau llawer sy'n ymwneud â'n clwb, ac rydym wedi ein llorio gan y golled ofnadwy hon.
"Fel clwb rydym yma am unrhyw gefnogaeth sydd ei angen arnoch ac rydym i gyd yn meddwl amdanoch ar yr amser trist hwn.
"Cwsg mewn hedd Dai."
Dywedodd y Cynghorydd Ross Williams, oedd yn ffrind i Mr Richards fod y newyddion ofnadwy "wedi llorio'r gymuned leol".
"Mae'n gymuned glòs iawn yma, ac mae'n dda gweld bod cymaint o gefnogaeth wedi ei gynnig i'r teulu a gobeithio mai parhau fydd hynny," meddai.
"I fod yn onest, dydw i ddim yn teimlo fy mod i wedi prosesu'r cyfan eto - mae o i gyd mor amrwd, ac yn dangos pa mor fregus y mae bywyd yn gallu bod.
"Mi wnes i ddod i adnabod Dai drwy glwb pêl-droed Aberpennar, ac ro'n i wastad wedi ei weld yn fachgen clên a doniol a oedd wastad ynghanol yr hwyl. Mae wir yn golled ofnadwy."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y teulu yn cael cyfiawnder, a'u bod yn teimlo ar hyn o bryd bod mwy o gwestiynau nag atebion.