Llai o anafiadau difrifol ar y ffyrdd ers cyfraith 20mya

20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd terfyn cyflymder 20mya ei gyflwyno ar gyfer 8,000 o filltiroedd o ffyrdd Cymru yn Medi 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy'n cael eu hanafu ar lonydd 20mya a 30mya wedi gostwng i'w lefel isaf ers cyfnod y pandemig yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer yr anafiadau difrifol a marwolaethau wedi gostwng 23% yn ystod tri mis cyntaf 2024.

Rhwng Ionawr a Mawrth, roedd 78 o anafiadau difrifol neu farwolaethau ar lonydd 20mya ac 30mya Cymru.

Mae hyn i'w gymharu â 101 o anafiadau difrifol yn yr un cyfnod yn 2023, cyn i'r terfyn cyflymder 20mya dod i rym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o bobl wedi protestio yn erbyn y terfyn cyflymder newydd

Ers Medi 2023, mae gan 37% o ffyrdd Cymru derfyn cyflymder 20mya, gyda llawer llai o ffyrdd nawr â therfyn cyflymder 30mya.

Mae ffigyrau yn dangos bod 377 o bobl wedi cael eu hanafu (nid o reidrwydd yn ddifrifol) ar ffyrdd 20mya a 30mya rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, o gymharu â 510 am yr un cyfnod yn 2023.

Mae hyn yn cynnwys pump o farwolaethau, i'w gymharu â 11 yn chwarter cyntaf 2023.

Mae'r ffigyrau chwarterol am nifer yr anafiadau ar lonydd Cymru ar ei lefel isaf erioed oni bai am gyfnod y pandemig.

Ond, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod y ffigyrau yn ystyried cyfnod byr yn unig, ac nid yw'n dangos unrhyw dueddiadau hirdymor eto ar y gyfraith 20mya.

Er hynny, mae'r ffigyrau yn awgrymu bod y terfyn 20mya yn cael effaith.

Wrth edrych ar y chwe mis ers Hydref 2024 - pan ddaeth y rheolau 20mya i rym - mae yna 17% o ostyngiad yn nifer yr anafiadau difrifol o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022-23.

Mae'r ffigyrau i'w weld yn ategu data ar wahân gan GanBwyll, oedd wedi darganfod bod 97% o'r cerbydau a gafodd eu monitro ers Ionawr 2024 yn cadw o dan y trothwy gorfodaeth o 26mya.

Yn dilyn dadlau am y rheolau newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn adolygu'r terfyn 20mya ar rai ffyrdd.

Pynciau cysylltiedig