Gyrwyr gwirfoddol yn cludo 'mwy o bobl i'r ysbyty nag erioed o'r blaen'
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun trafnidiaeth gymunedol yn dweud eu bod nhw'n mynd â mwy o bobl i apwyntiadau ysbyty nag erioed o'r blaen.
Yn ôl Dolen Teifi roedd bron i chwarter o'u teithiau yng Ngheredigion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gysylltiedig ag iechyd.
Maen nhw'n rhoi'r bai ar ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
Mae un gyrrwr gwirfoddol o'r mudiad yn galw am wasanaeth am ddim i fynd â phobl fregus i apwyntiadau iechyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
'Yr unig opsiwn'
Mae John Barrington Powell, 86, yn ddibynnol ar gynllun Dolen Teifi i fynychu apwyntiadau rheolaidd yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli.
O'i gartref yn Llandysul, Ceredigion, mae'r daith bron i 40 milltir yn cymryd dros awr un ffordd - a'r siwrne yno ac yn ôl yn costio tua £50.
"Ers i'r gwasanaethau bws waethygu, mae'n rhaid i ni eu defnyddio [Dolen Teifi]," meddai.
"Dyna'r unig opsiwn heblaw am dacsi preifat fyddai'n ddrytach."
Mae gyrrwr yn casglu John a'i wraig, Joan, o'u cartref, yn eu gyrru i Lanelli ac yn aros nes bydd yr apwyntiad wedi'i orffen cyn eu dychwelyd adref.
Yn ôl John a'i wraig byddan nhw "ddim yn gallu ymdopi" heb y gwasanaeth.
"Ar un adeg roedden ni'n defnyddio'r ambiwlansys, ond doedden ni ddim yn gallu dibynnu arnyn nhw ac mae'n rhaid i Joan ddod gyda mi, doedd hi ddim yn gallu mynd yn yr ambiwlans."
Mae ambiwlansys ar gael i fynd â chleifion i apwyntiadau iechyd, ond dim ond y claf all deithio.
Dywedodd John fod yn rhaid i'w wraig fynd gydag ef i'r ysbyty am nad yw'n gallu "defnyddio fy nwylo i fwydo fy hun na gwneud pethau".
'Wedi blino braidd'
Eleni fe wnaeth Dolen Teifi bron i 50,000 o deithiau - gyda dros 10,000 o'r teithiau hynny yn ymwneud ag iechyd.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi methu a gwneud 2,000 o geisiadau am deithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod hanner o'r rheini yn deithiau i fynd i apwyntiadau iechyd.
Mae John Hands yn un o'r 783 o yrwyr gwirfoddol ar gyfer Dolen Teifi, gan weithio ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.
"Ers iddyn nhw dorri'r bysiau dros y blynyddoedd, mae'r galw am y math yma o drafnidiaeth wedi cynyddu," meddai.
"Dwi'n teimlo fy mod i'n blino braidd, a hefyd mae'r galw yn cynyddu drwy'r amser."
Dywedodd erbyn heddiw bod y rhan fwyaf o'i deithiau yn apwyntiadau ysbyty, gan gynnwys teithiau John a Joan i Ysbyty'r Tywysog Phillip.
"Dyw e ddim yn iawn eu bod nhw'n gorfod talu. Achos bydde'r ambiwlans am ddim. Dylse National Health dalu am y transport.
"Mewn rhai achosion ni'n mynd â dau berson, gŵr a gwraig, ma' hwnna'n dda ond bydde hynny methu digwydd gydag ambiwlans."
'Miliwn o deithiau'r flwyddyn'
Yn ôl y Community Transport Association mae'r galw wedi cynyddu ar draws Cymru gyfan.
Gemma Lelliot yw Cyfarwyddwr CTA Cymru: "Rydym yn gwybod bod ein haelodau'n gwneud bron i filiwn o deithiau'r flwyddyn a bod mwy na 60% o'r teithiau hynny'n mynd i leoliadau iechyd."
Ychwanegodd: "Mae trafnidiaeth gymunedol wastad wedi disgyn rhwng y craciau, nid yw'n cael ei ystyried yn rhan o iechyd a gofal cymdeithasol.
"Nid yw'n cael ei ystyried yn rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd ac felly nid oes yr elfen honno o gyllid craidd ar ei gyfer."
Yn ôl y cynghorydd a chyfarwyddwr Llandysul Pont Tyweli Ymlaen, Keith Evans, mae'r gwasanaeth bysiau yn ardal Llandysul yn "ddiflas".
"Mae lle i hynny wella os cawn ni gydweithrediad gyda'r Senedd yng Nghaerdydd," meddai.
"Yn sicr mae 'na alwad i gael mwy o wasanaethau er mwyn helpu cludo pobl o un lle i'r llall."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd Mesur Bysiau newydd sy'n cael ei gyflwyno yn y Senedd y tymor hwn yn "rhoi pobl cyn elw".
"Er mwyn helpu i hwyluso'r newid tuag at fasnachfreinio bysiau rydym wedi buddsoddi £64m eleni i wneud gwelliannau i'n rhwydweithiau presennol yn gyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023