Coroni Cymraes 15 oed yn bencampwr cicfocsio'r byd

Kloe JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kloe yn ymarfer yn Neuadd Cwmllynfell a Chanolfan Hamdden Pontardawe a Phenlan bob wythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 15 oed o dde Cymru wedi cael ei choroni yn bencampwr y byd mewn cicfocsio.

Dechreuodd Kloe Jones, o Gwmllynfell yng Nghastell-nedd Port Talbot, ar y gamp pan oedd hi’n bum mlwydd oed ac mae wedi bod yn cystadlu ers hynny.

Fe wnaeth ddechrau cystadlu mewn cystadlaethau WAKO dwy flynedd yn ôl, ac eleni oedd y tro cyntaf iddi gystadlu dros dîm Prydain.

Enillodd hi ddwy fedal aur ym mhencampwriaeth y byd WAKO yn Budapest, Hwngari.

Sefydliad cicfocsio rhyngwladol yw WAKO, sy'n cynrychioli dros 120 o wledydd.

'Anhygoel'

Dywedodd Kloe ei bod hi'n anodd iawn disgrifio’r teimlad o gael ei choroni yn bencampwr byd.

“Dwi wrth fy modd bod fy holl waith wedi talu bant," meddai.

“Mae wedi cymryd llawer o ymarfer a gwaith er mwyn i mi gyrraedd ble y' fi heddiw, felly dyw geiriau ddim yn gallu disgrifio’r teimlad!

“Roedd hi’n deimlad anhygoel. O’n i’n teimlo mor hapus.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Kloe ar y gamp pan oedd hi'n bum mlwydd oed

Mae Kloe yn ymarfer yn Neuadd Cwmllynfell a chanolfan hamdden Pontardawe a Phenlan bob wythnos.

Ond am gyfnod cyn pencampwriaeth y byd, cafodd gyfle hefyd i fynychu sesiynau ymarfer gyda thîm Prydain.

Dywedodd: “Ro’dd rhaid i mi wneud llawer o baratoi, gyda ymarferion caled rhwng pump a chwe gwaith yr wythnos, a sesiynau gym ychwanegol.

“Mae’r gamp yn anodd iawn ac yn gorfforol iawn.

“Hefyd o’n i’n teithio i ymarferion tîm Prydain Fawr mewn gwahanol leoliadau yn Lloegr, ble roeddwn yn ymarfer gyda’r holl dîm."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Kloe ddwy fedal aur ym mhencampwriaeth y byd yn Budapest, Hwngari

Fel corff llywodraethu cicfocsio amaturiaid, mae WAKO yn gyfrifol am ddatblygu’r gamp ledled y byd.

Mae sawl steil gwahanol o gicbociso. Enillodd Kloe y bencampwriaeth yng nghategori Kick Light a Light Contact.

Esboniodd Kloe: “Mae light contact yn ymladd parhaus am ddwy rownd o ddwy funud, pob rownd o ymladd, ble rydych chi'n dyrnu ac yn cicio.

“Chi’n gallu pwno unrhyw beth o’r clun i fyny, a'r nod yw pwno eich gwrthwynebwr gymaint â phosib.

“Mae pwyntiau ar gael hefyd am ddangos sgil.

“Ma’ kick light yn debyg iawn ond mae hawl cicio’r coesau hefyd."

'Codi hyder'

Er bod mwy o ferched yn cymryd diddordeb yn y gamp, mae Kloe yn annog mwy i gymryd rhan er mwyn “codi hyder”.

“Mae’n dda i weld bod merched yn cymryd rhan, ond mae yna lawer mwy o fechgyn yn y gamp," meddai.

“Bydde fi yn sicr yn annog mwy o ferched i gymryd rhan.

“Mae’n meddwl bod chi’n gallu dysgu sgiliau hunan amddiffyn, ond mae hefyd yn ffordd dda i wneud ffrindiau a codi hyder.”

Nid yn unig ar y llwyfan rhyngwladol mae Kloe wedi profi llwyddiant yn ddiweddar.

Bu’n cystadlu mewn cystadlaethau ar lefel Prydeinig hefyd, ble enillodd ddwy fedal aur arall yn Rhydychen.

Yr her nesaf i Kloe yw cystadleuaeth Brydeinig ym Mryste fis nesaf, ble bydd hi’n anelu at ychwanegu mwy fyth o fedalau.

Pynciau cysylltiedig